Datguddiad 3
3
A.D. 96. —
2 Argyhoeddi angel eglwys Sardis, 3 a’i annog i edifarhau: a’i fygwth oni edifarhâi. 8 Angel eglwys Philadelffia 10 yn cael ei ganmol am ei ddiwydrwydd a’i amynedd. 14 Angel Laodicea yn cael ei geryddu am nad yw na brwd nac oer; 19 a’i rybuddio i fod yn fwy ei sêl. 20 Crist yn sefyll wrth y drws, ac yn curo.
1Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae’r #Pen 1:4, 16hwn sydd â saith Ysbryd Duw a’r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; #Pen 2:2Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt. 2Bydd wyliadwrus, a sicrha’r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw. 3Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist, a chadw, ac #Ad. 19edifarha. #Mat 24:42, 43; Luc 12:39, 40; 1 Thess 5:2; 2 Pedr 3:10; Pen 16:15Os tydi gan hynny ni wyli, mi a ddeuaf arnat ti fel lleidr, ac ni chei di wybod pa awr y deuaf atat. 4Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni #Jwdas 23halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad #Pen 4:4; 6:11; 7:9, 13gwynion: oblegid teilwng ydynt. 5Yr hwn sydd yn gorchfygu, #Ad. 18hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni #Exod 32:32; Salm 69:28ddileaf ei enw ef allan o #Phil 4:3; Pen 20:12; 21:27lyfr y bywyd, ond #Mat 10:32; Luc 12:8mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef. 6#Ad. 13Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
7Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, #Ad. 14; Pen 1:5y Cywir, yn eu dywedyd, #Esa 22:22; Luc 1:32; Pen 1:18yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac #Job 12:14yn cau, ac nid yw neb yn agoryd; 8#Ad. 1Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw. 9Wele, mi a wnaf #Pen 2:9iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, #Esa 49:23; 60:14gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di. 10O achos cadw ohonot air fy amynedd i, #2 Pedr 2:9minnau a’th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear. 11Wele, #Phil 4:5; Pen 1:3; 22:7, 12yr wyf yn dyfod ar frys: #Pen 2:25dal yr hyn sydd gennyt, fel na ddygo neb dy goron di. 12Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a’i gwnaf ef #1 Bren 7:21yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac #Pen 2:17; 14:1; 22:4mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem #Gal 4:26; Heb 12:22; Pen 21:2, 10newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i. 13#Ad. 22Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
14Ac at angel #3:14 yr eglwys yn Laodicea.eglwys y Laodiceaid, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, #Pen 1:5; 19:11; 22:6y Tyst ffyddlon a chywir, #Col 1:15dechreuad creadigaeth Duw; 15#Pen 2:2Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd: mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. 16Felly, am dy fod yn glaear, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a’th chwydaf di allan o’m genau: 17Oblegid dy fod yn dywedyd, #1 Cor 4:8Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth. 18Yr wyf yn dy gynghori #Esa 55:1; Mat 13:44; 25:9i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a #2 Cor 5:3; Pen 6:11; 7:13; 16:15; 19:8dillad gwynion, fel y’th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech. 19#Job 5:17; Diar 3:11, 12; Heb 12:5, 6; Iago 1:12Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu’r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha. 20Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo: os clyw neb fy llais i, ac agoryd y drws, #Can 5:2; Ioan 14:23mi a ddeuaf i mewn ato ef, ac a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau. 21Yr hwn sydd yn gorchfygu, #Mat 19:28; Luc 22:30; 1 Cor 6:2; 2 Tim 2:12; Pen 2:26, 27rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda’m Tad ar ei orseddfainc ef. 22#Pen 2:7Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.
Dewis Presennol:
Datguddiad 3: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society