Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Datguddiad 19

19
A.D. 96. —
1 Clodfori Duw yn y nefoedd am farnu y butain fawr, a dial gwaed ei saint. 7 Priodas yr Oen. 10 Yr angel heb fynnu ei addoli. 17 Galw yr ehediaid i’r lladdfa fawr.
1Ac ar ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef uchel gan dyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Aleliwia; #Pen 7:10; 12:10Iachawdwriaeth, a gogoniant, ac anrhydedd, a gallu, i’r Arglwydd ein Duw ni: 2Oblegid #Pen 15:3; 16:7cywir a chyfiawn yw ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y butain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phuteindra, ac #Deut 32:43; Pen 18:20a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi. 3Ac eilwaith y dywedasant, Aleliwia. #Esa 34:10; Pen 14:11; 18:9, 18A’i mwg hi a gododd yn oes oesoedd. 4A syrthiodd #Pen 4:4, 6y pedwar henuriad ar hugain a’r pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc; gan ddywedyd, Amen; Aleliwia. 5A llef a ddaeth allan o’r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawrion hefyd. 6Ac mi a glywais megis llef tyrfa fawr, ac megis llef dyfroedd lawer, ac megis llef taranau cryfion, yn dywedyd, Aleliwia: #Pen 11:15; 12:10oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Hollalluog. 7Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth #Mat 22:2; 25:10priodas yr Oen, a’i wraig ef a’i paratôdd ei hun. 8A #Salm 45:13, 14; Esec 16:10; Pen 3:18; 21:2, 9chaniatawyd iddi gael ei gwisgo â lliain main glân a disglair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y saint. 9Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna, #Mat 22:2; Luc 14:15Bendigedig yw’r rhai a elwir i swper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthyf, #Pen 21:5; 22:6Gwir eiriau Duw yw’r rhai hyn. 10Ac #Pen 22:8mi a syrthiais wrth ei draed ef, i’w addoli ef. Ac efe a ddywedodd wrthyf, #Act 10:26; 14:14; Pen 22:9Gwêl na wnelych hyn: cyd‐was ydwyf i ti, ac i’th frodyr #1 Ioan 5:10; Pen 12:17y rhai sydd ganddynt dystiolaeth Iesu. Addola Dduw: canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y broffwydoliaeth. 11Ac mi a welais y nef yn agored, ac wele #Pen 6:2farch gwyn; a’r hwn oedd yn eistedd arno a elwid #Pen 3:14Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu ac yn rhyfela. 12#Pen 1:14; 2:18A’i lygaid oedd fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd coronau lawer: ac yr oedd ganddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn ni wyddai neb ond efe ei hun: 13Ac #Esa 63:2, 3 yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwir ei enw ef, #Ioan 1:1; 1 Ioan 5:7Gair Duw. 14A’r lluoedd oedd yn y nef a’i canlynasant ef ar feirch gwynion, #Mat 28:3; Pen 4:4 7:9wedi eu gwisgo â lliain main, gwyn, a glân. 15Ac #Pen 1:16; Ad. 21allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro’r cenhedloedd ag ef: ac efe #Salm 2:9; Pen 2:27; 12:5a’u bugeilia hwynt â gwialen haearn: ac #Esa 63:3; Pen 14:19, 20efe sydd yn sathru cerwyn win digofaint a llid Duw Hollalluog. 16Ac y mae ganddo ar ei wisg, ac ar ei forddwyd, enw wedi ei ysgrifennu, #Dan 2:47; 1 Tim 6:15; Pen 17:14BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI. 17Ac mi a welais angel yn sefyll yn yr haul; ac efe a lefodd â llef #19:17 fawr.uchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg #19:17 yng nghanol.trwy ganol y nef, #Esec 39:18Deuwch ac ymgesglwch ynghyd i swper y Duw mawr; 18Fel y bwytaoch gig brenhinoedd, a chig pen‐capteiniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a’r rhai sydd yn eistedd arnynt, a chig holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion. 19Ac mi a welais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear, a’u lluoedd, wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef. 20A daliwyd y bwystfil, a chydag ef #Pen 20:10y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, #Pen 13:15a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. #Pen 20:10; Edrych Dan 7:11Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân #Pen 14:10yn llosgi â brwmstan. 21A’r lleill a laddwyd â #Pen 17:16chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o’i enau ef: a’r holl adar a gawsant eu gwala o’u cig hwynt.

Dewis Presennol:

Datguddiad 19: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda