Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

Philemon 1

1
A.D. 64. —
4 Y mae yn wych ganddo glywed am ffydd a chariad Philemon; 9 ac yn dymuno arno faddau i’w was Onesimus, 14 a’i gymryd ef adref yn garedig drachefn.
1Paul, #Eff 3:1; 4:1; 2 Tim 1:8carcharor Crist Iesu, a’r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a’n cyd‐weithiwr, 2Ac at Apffia ein hanwylyd, ac at #Col 4:17Archipus #Phil 2:25ein cyd‐filwr, ac at #Rhuf 16:5yr eglwys sydd yn dy dŷ di: 3Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist. 4#Eff 1:16; 1 Thess 1:2; 2 Thess 1:3Yr wyf yn diolch i’m Duw, gan wneuthur coffa amdanat yn wastadol yn fy ngweddïau, 5#Eff 1:15; Col 1:4Wrth glywed dy gariad, a’r ffydd sydd gennyt tuag at yr Arglwydd Iesu, a thuag at yr holl saint; 6Fel y gwneler cyfraniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pob peth daionus a’r sydd ynoch chwi yng Nghrist Iesu. 7Canys y mae gennym lawer o lawenydd a diddanwch yn dy gariad di, herwydd bod ymysgaroedd y saint wedi eu llonni trwot ti, frawd. 8Oherwydd paham, #1 Thess 2:6er bod gennyf hyfdra lawer yng Nghrist, i orchymyn i ti y peth sydd weddus: 9Eto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn atolwg, er fy mod yn gyfryw un â Phaul yr hynafgwr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Grist. 10Yr ydwyf yn atolwg i ti dros fy mab #Col 4:9Onesimus, #1 Cor 4:15; Gal 4:19yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau: 11Yr hwn gynt a fu i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minnau hefyd; 12Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn dithau ef, yr hwn yw fy ymysgaroedd i: 13Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyda mi, #1 Cor 16:17; Phil 2:30fel drosot ti y gwasanaethai efe fi yn rhwymau yr efengyl. 14Eithr heb dy #1:14 gyngor.feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; #2 Cor 9:7fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 15Canys ysgatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd dros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd; 16Nid fel gwas bellach, eithr uwchlaw gwas, yn frawd annwyl, yn enwedig i mi; eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd ac yn yr Arglwydd hefyd? 17Os wyt ti gan hynny yn fy nghymryd i yn #1:17 gyfrannog.gydymaith, derbyn ef fel myfi. 18Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu os yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnaf i; 19Myfi Paul a’i hysgrifennais â’m llaw fy hun, myfi a’i talaf: fel na ddywedwyf wrthyt, dy fod yn fy nyled i ymhellach amdanat dy hun hefyd. 20Ie, frawd, gad i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymysgaroedd i yn yr Arglwydd. 21#2 Cor 7:16Gan hyderu ar dy ufudd‐dod yr ysgrifennais atat, gan wybod y gwnei, ie, fwy nag yr wyf yn ei ddywedyd. 22Heblaw hyn hefyd, paratoa i mi lety: canys #Phil 1:25; 2:24yr ydwyf yn gobeithio #2 Cor 1:11trwy eich gweddïau chwi y rhoddir fi i chwi. 23Y mae yn dy annerch, #Col 1:7; 4:12Epaffras, fy nghyd‐garcharor yng Nghrist Iesu; 24#Act 12:12Marc, #Act 19:29Aristarchus, #Col 4:14Demas, Luc, fy nghyd‐weithwyr. 25Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda’ch ysbryd chwi. Amen.
At Philemon yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda’r gwas Onesimus.

Dewis Presennol:

Philemon 1: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda