Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 11

11
A.D. 33. —
1 Crist yn marchogaeth mewn goruchafiaeth i Jerwsalem: 12 yn melltithio y pren deiliog diffrwyth: 15 yn glanhau y deml: 20 yn annog ei ddisgyblion i fod yn ddi‐sigl mewn ffydd; ac i faddau i’w gelynion: 27 ac yn amddiffyn fod ei weithredoedd ef yn gyfreithlon, trwy dystiolaeth Ioan, yr hwn oedd ŵr wedi ei ddanfon oddi wrth Dduw.
1Ac #Mat 21:1; Luc 19:29; Ioan 12:14wedi eu dyfod yn agos i Jerwsalem, i Bethffage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, 2Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymaith i’r pentref sydd gyferbyn â chwi: ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb; gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymaith. 3Ac os dywed neb wrthych, Paham y gwnewch hyn? dywedwch, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho; ac yn ebrwydd efe a’i denfyn yma. 4A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym wrth y drws oddi allan, mewn croesffordd; ac a’i gollyngasant ef yn rhydd. 5A rhai o’r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi, yn gollwng yr ebol yn rhydd? 6A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchmynasai yr Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymaith. 7A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno; ac efe a eisteddodd arno. 8A llawer a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd; ac eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar y ffordd. 9A’r rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, #Salm 118:26Hosanna; Bendigedig fyddo’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: 10Bendigedig yw’r deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tad Dafydd: Hosanna yn y #11:10 goruchafion.goruchaf. 11A’r Iesu a aeth i mewn i Jerwsalem, ac i’r deml: ac wedi iddo edrych ar bob peth o’i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Fethania gyda’r deuddeg.
12 # Mat 21:18 A thrannoeth, wedi iddynt ddyfod allan o Fethania, yr oedd arno chwant bwyd. 13Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren ag arno ddail, efe a aeth i edrych a gaffai ddim arno. A phan ddaeth ato, ni chafodd efe ddim ond y dail: canys nid oedd amser ffigys. 14A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwytaed neb ffrwyth ohonot byth mwy. A’i ddisgyblion ef a glywsant.
15 # Mat 21:12; Luc 19:45; Ioan 2:14 A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: 16Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy’r deml. 17Ac efe #11:17 a athrawiaethodd.a’u dysgodd, gan ddywedyd wrthynt, Onid yw’n ysgrifenedig, #Esa 56:7Y gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi #11:17 Neu, gan yr holl, & c.i’r holl genhedloedd? ond #Jer 7:11chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. 18#Luc 19:47A’r ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fod yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef. 19A phan aeth hi yn hwyr, efe a aeth allan o’r ddinas.
20 # Mat 21:19 A’r bore, wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigysbren wedi crino o’r gwraidd. 21A Phedr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigysbren a felltithiaist, wedi crino. 22A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych #11:22 ffydd Duw.ffydd yn Nuw: 23Canys #Mat 17:20; 21:21; Luc 17:6yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, Pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymaith, a bwrier di i’r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo, a fydd iddo. 24Am hynny meddaf i chwi, #Mat 7:7; Luc 11:9; Ioan 14:13; 15:7; 16:24; Iago 1:6Beth bynnag oll a geisioch wrth weddïo credwch y derbyniwch, ac fe fydd i chwi. 25A #Mat 6:14; Col 3:13phan safoch i weddïo, maddeuwch, o bydd gennych ddim yn erbyn neb; fel y maddeuo eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau: 26Ond #Mat 18:35os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd ni faddau chwaith eich camweddau chwithau.
27 # Mat 21:23; Luc 20:1 A hwy a ddaethant drachefn i Jerwsalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y deml, yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid, a ddaethant ato, 28Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon i wneuthur y pethau hyn? 29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un #11:29 Neu, peth.gair; ac atebwch fi, a mi a ddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn. 30Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion? atebwch fi. 31Ac ymresymu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech iddo? 32Eithr os dywedwn, O ddynion; yr oedd arnynt ofn y bobl: canys #Mat 14:5; Pen 6:20pawb oll a gyfrifent Ioan mai proffwyd yn ddiau ydoedd. 33A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddywedaf finnau i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Dewis Presennol:

Marc 11: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda