Micha 1
1
1 Micha yn dangos digofaint Duw yn erbyn Jacob am eu gau‐dduwiaeth; 10 ac yn annog i alaru.
1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at #Jer 26:18Micha y Morasthiad yn nyddiau Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, #Amos 1:1yr hwn a welodd efe am Samaria a Jerwsalem. 2Gwrandewch, bobl #1:2 Heb. hwynt oll.oll; #Deut 32:1; Esa 1:2clyw dithau, y ddaear, #1:2 Heb. a’i chyflawnder.ac sydd ynddi; a bydded yr Arglwydd Dduw yn dyst i’ch erbyn, yr Arglwydd o’i deml sanctaidd. 3Canys #Esa 26:21wele yr Arglwydd yn dyfod o’i #Salm 115:3le; efe hefyd a ddisgyn, ac #Deut 32:13; 33:29; Amos 4:13a sathr ar uchelderau y ddaear. 4#Salm 97:5; Esa 64:1, 2; Amos 9:5; Hab 3:6, 10A’r mynyddoedd a doddant tano ef, a’r glynnoedd a ymholltant fel cwyr o flaen y tân, ac fel y dyfroedd a dywelltir ar y goriwaered. 5Hyn i gyd sydd am anwiredd Jacob, ac am bechodau tŷ Israel. Beth yw anwiredd Jacob? onid Samaria? Pa rai yw uchel leoedd Jwda? onid Jerwsalem? 6Am hynny #Pen 3:12y gosodaf Samaria yn garneddfaes dda i blannu gwinllan; a gwnaf i’w cherrig dreiglo i’r dyffryn, a datguddiaf ei sylfeini. 7A’i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a’i holl wobrau a losgir yn tân, a’i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant. 8Oherwydd hyn #Esa 21:3; 22:4; Jer 4:19galaraf ac udaf; #Esa 20:2, 3cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar #Job 30:29; Salm 102:6fel dreigiau, a gofid fel #1:8 Heb. merched.cywion y dylluan. 9Oherwydd dolurus yw #1:9 Neu, o’i harchollion.ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
10 #
2 Sam 1:20
Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: #Jer 6:26ymdreigla mewn llwch yn nhŷ #1:10 Sef, llwch.Affra. 11Dos heibio, #1:11 Neu, yr hon a breswyli yn deg.preswylferch Saffir, yn #Esa 20:4; 47:2, 3; Jer 13:22noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch #1:11 Neu, y ddiadell wlad.Saanan allan yng ngalar #1:11 Neu, lle agos.Beth‐esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan. 12Canys trigferch Maroth a #1:12 Neu, fu ddrwg ganddi.ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; #Amos 3:6eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem. 13Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel. 14Am hynny y rhoddi anrhegion #1:14 Neu, am.i Moreseth‐gath: tai #1:14 Sef, celwydd.Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel. 15Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: #1:15 Neu, daw gogoniant Israel hyd Adulam.daw hyd Adulam, gogoniant Israel. 16#Job 1:20; Esa 22:12; Jer 47:5Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.
Dewis Presennol:
Micha 1: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society