Jwdas 1
1
A.D. cylch 66. —
Y mae yn eu hannog i broffesu ffydd Crist yn ddianwadal: 4 bod gau‐athrawon wedi ymlusgo i mewn i’w hudo hwynt; a bod dialedd creulon wedi ei ddarparu i’w hathrawiaeth a’u cyneddfau melltigedig hwynt: 20 ond bod y rhai duwiol, trwy gynhorthwy yr Ysbryd Glân, a thrwy weddïo ar Dduw, yn abl i barhau, ac i gynyddu mewn gras, ac i’w cadw eu hunain, ac i achub eraill rhag maglau y twyllwyr hynny.
1Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a #Luc 6:16; Act 1:13brawd Iago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac #Ioan 17:11, 12, 15; 1 Pedr 1:5a gadwyd #1:1 i Iesu Grist.yn Iesu Grist, ac a alwyd: 2Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger. 3Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog #Phil 1:27; 1 Tim 1:18; 6:12; 2 Tim 4:7i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i’r saint. 4Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, #Rhuf 9:21, 22; 1 Pedr 2:8y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon; annuwiolion, #2 Pedr 2:10yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac #Titus 1:16; 2 Pedr 2:1yn gwadu’r #1:4 yr unig Dduw ac Arglwydd, ein Harglwydd Iesu Grist.unig Arglwydd Dduw, a’n Harglwydd Iesu Grist. 5Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, #Num 14:29, 37; 26:64; Heb 3:17, 19ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant. 6#Ioan 8:44Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu #1:6 goruchafiaeth.dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, #2 Pedr 2:4a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. 7Megis y mae #Gen 19:24; Deut 29:23; 2 Pedr 2:6Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd #1:7 dieithr.arall, wedi eu gosod yn esiampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. 8#2 Pedr 2:10Yr un ffunud hefyd y mae’r #1:8 y rhai hyn trwy eu hun.breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd, yn diystyru #1:8 arglwyddiaeth.llywodraeth, ac #Exod 22:28yn cablu’r rhai sydd mewn #1:8 urddas.awdurdod. 9Eithr #Dan 10:13; 12:1; Dat 12:7Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, #2 Pedr 2:11ni feiddiodd ddwyn barn #1:9 cabledd.gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, #Sech 3:2Cerydded yr Arglwydd dydi. 10#2 Pedr 2:12Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent. 11Gwae hwynt‐hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd #Gen 4:5Cain, #1:11 a thrwy dwyll gwobr Balaam a redasant allan.ac #Num 22:7, 21; 2 Pedr 2:15a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a’u difethwyd yng #Num 16:1ngwrthddywediad Core. 12#2 Pedr 2:13Y rhai hyn sydd frychau yn eich #1 Cor 11:21cariad‐wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi‐ofn yn eu pesgi eu hunain: #Diar 25:14; 2 Pedr 2:17cymylau di‐ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, #Mat 15:13wedi eu diwreiddio; 13#Esa 57:20Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd. 14Ac Enoch hefyd, #Gen 5:18y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, #Dan 7:10; Sech 14:5; Mat 25:31; 2 Thess 1:7y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint, 15I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau #1 Sam 2:3; Salm 31:18; 94:4; Mal 3:13caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. 16Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac #2 Pedr 2:18y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd. 17Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18Ddywedyd ohonynt i chwi, #1 Tim 4:1; 2 Tim 3:1; 2 Pedr 3:3y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau #1:18 annuwioldeb.annuwiol eu hunain. 19Y rhai hyn yw’r #Diar 18:1; Esec 14:7; Hos 4:14; 9:10rhai sydd yn eu didoli eu hunain, #1 Cor 2:14; Iago 3:15yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. 22A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: 23Eithr rhai #Rhuf 11:14; 1 Tim 4:16cedwch #1:23 mewn.trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed #Sech 3:4, 5; Dat 3:4y wisg a halogwyd gan y cnawd. 24#Rhuf 16:25; Eff 3:20; 1 Tim 1:17Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi‐gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, 25#Rhuf 16:27I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
Dewis Presennol:
Jwdas 1: BWM1955C
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society