Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Daniel 5

5
1 Annuwiol wledd Belsassar. 5 Yr ysgrifenlaw, yr hon ni fedrai y dewiniaid mo’i darllen, yn blino y brenin. 10 Dwyn Daniel ger bron, ar air y frenhines: 17 yntau yn ceryddu y brenin am ei falchder a’i ddelw‐addoliaeth; 25 ac yn darllen, ac yn dirnad yr ysgrifen. 30 Trosi y llywodraeth at y Mediaid.
1Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil. 2Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt. 3Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ Dduw, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a’r brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, a yfasant ynddynt. 4Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.
5Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd. 6Yna y newidiodd #5:6 Cald. disgleirdeb, neu, gloywder y.lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd #5:6 Neu, gwregysau, Esa 5:27 Cald. cylymau, neu, rhwymau.rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall. 7Gwaeddodd y brenin #5:7 Cald. â nerth.yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a’r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir #5:7 Neu, ag ysgarlad.â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas. 8Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i’r brenin ei dehongliad. 9Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a’i #5:9 Neu, ddisgleirdeb, neu, loywder.wedd a ymnewidiodd ynddo, a’i dywysogion a synasant.
10Y frenhines, oherwydd geiriau y brenin a’i dywysogion, a ddaeth i dŷ y wledd: a llefarodd y frenhines, a dywedodd, #Pen 3:9Bydd fyw byth, frenin; na chyffroed dy feddyliau di, ac na newidied dy wedd. 11#Pen 2:48Y mae gŵr yn dy deyrnas, #Pen 4:8, 9, 18yr hwn y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo; ac yn nyddiau dy dad y caed ynddo ef oleuni, a deall, a doethineb fel doethineb y duwiau: a’r brenin Nebuchodonosor dy #5:11 Neu, daid.dad a’i gosododd ef #Pen 4:9yn bennaeth y dewiniaid, astronomyddion, Caldeaid, a brudwyr, sef y brenin dy dad di. 12Oherwydd cael yn y Daniel hwnnw, #Pen 1:7yr hwn y rhoddes y brenin iddo enw Beltesassar, ysbryd rhagorol, a gwybodaeth a #5:12 Neu, deall dehonglwr breuddwydion.deall, deongl breuddwydion, ac egluro damhegion, a #5:12 Neu, datodwr.datod clymau: galwer Daniel yr awron, ac efe a ddengys y dehongliad. 13Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin #5:13 Neu, fy nhaid.fy nhad i o Jwda? 14Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol. 15Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth. 16Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
17Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo. 18O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd. 19Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a’r neb a fynnai a ostyngai. 20Eithr pan #Pen 4:30ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef #5:20 Neu, i wneuthur yn falch, neu, traha.mewn balchder, #5:20 Cald. gwnaed iddo ddisgyn.efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho: 21#Pen 4:32, &cGyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a #5:21 Neu, gwnaeth ei galon yn ogystal â’r bwystfil. Cald. gosodwyd ei galon at y bwystfil, neu, gyda’r bwystfil.gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, #Pen 4:17hyd oni wybu mai y Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno. 22A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll; 23Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, #Jer 10:23a’th holl ffyrdd yn eiddo. 24Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.
25A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. 26Dyma ddehongliad y peth: MENE; Duw a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. 27TECEL; #Salm 62:9Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. 28PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r #Rhagddywedwyd, Esa 21:2; ad. 31; Pen 9:1Mediaid a’r #Pen 6:28Persiaid. 29Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, #ad. 7y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.
30Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid. 31#Pen 9:1A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe #5:31 Cald. yn fab dwy flwydd, &cyn ddwy flwydd a thrigain oed.

Dewis Presennol:

Daniel 5: BWM1955C

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda