Numeri 7:78
Numeri 7:12-83 BNET
Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod: Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a phowlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram; roedd y ddau yn llawn o’r blawd gwenith gorau wedi’i gymysgu gydag olew olewydd i’w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram; roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i’w losgi’n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ych, pum hwrdd, pum bwch gafr, a phum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD.

