Numeri 7:78 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Numeri 7:12-83 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod: Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a phowlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram; roedd y ddau yn llawn o’r blawd gwenith gorau wedi’i gymysgu gydag olew olewydd i’w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram; roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i’w losgi’n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ych, pum hwrdd, pum bwch gafr, a phum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni’r ARGLWYDD.
Rhanna
Numeri 7 BNETNumeri 7:78 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y deuddegfed dydd, offrymodd Ahira fab Enan, arweinydd pobl Nafftali, ei offrwm yntau
Rhanna
Numeri 7 BCNDNumeri 7:78 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar y deuddegfed dydd yr offrymodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Nafftali.
Rhanna
Numeri 7 BWM