Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Cronicl 3

3
Dechrau adeiladu’r Deml
(1 Brenhinoedd 6:1-38; 7:15-22)
1Yna dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD ar fryn Moreia yn Jerwsalem, yn y lle roedd Dafydd wedi dweud, sef ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad. Dyna lle roedd yr ARGLWYDD wedi cyfarfod Dafydd. 2Dechreuodd adeiladu ar ail ddiwrnod yr ail fis o’i bedwaredd flwyddyn fel brenin.#3:2 Byddai hyn tua Ebrill – Mai, 966 cc.
3A dyma fesuriadau sylfeini’r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio). 4Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw#3:4 Fel rhai llawysgrifau Groeg a Syrieg, sy’n dweud 20 cufydd (sef tua 9 metr); Mae’r Hebraeg yn dweud 120 cufydd, sydd dros 54 metr. metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi’i gorchuddio gydag aur pur.
5Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio’r cwbl gydag aur pur wedi’i addurno gyda coed palmwydd a chadwyni. 6Roedd y deml wedi’i haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o Parfaîm 7i orchuddio trawstiau’r to, y rhiniogau, y waliau a’r drysau. Roedd cerwbiaid wedi’u cerfio yn addurno’r waliau.
8Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a’i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur. 9Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Roedd wedi gorchuddio’r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd. 10Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau gerwb a’u gorchuddio nhw gydag aur. 11Roedd adenydd y ddau gerwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y cerwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau gerwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. 12Wedyn roedd aden arall yr ail gerwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i’r deml. 13Roedd yr adenydd gyda’i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw’n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn. 14Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o gerwbiaid wedi’i frodio arno.
15O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau. 16Gwnaeth gadwyni, fel y rhai yn y cysegr, i addurno top y pileri. A gwnaeth gant o dlysau siâp pomgranadau i’w gosod ar y cadwyni. 17Gosododd y ddau biler o flaen y brif neuadd yn y deml – un ar y dde a’r llall ar y chwith. Galwodd yr un oedd ar y dde yn Iachîn a’r un oedd ar y chwith yn Boas.

Dewis Presennol:

2 Cronicl 3: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd