Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Corinthiaid 3

3
Ynglŷn â rhaniadau yn yr eglwys
1Pan oeddwn i acw, frodyr a chwiorydd, roedd hi’n amhosib siarad â chi fel Cristnogion aeddfed.#3:1 Cristnogion aeddfed Groeg, “pobl yr Ysbryd”. Roedd rhaid i mi siarad â chi fel petaech chi heb dderbyn yr Ysbryd! – yn fabis bach yn eich dealltwriaeth o’r bywyd Cristnogol. 2Roedd rhaid i mi eich bwydo chi â llaeth, am eich bod chi ddim yn barod i gymryd bwyd solet! Ac mae’n amlwg eich bod chi’n dal ddim yn barod! 3Dych chi’n dal i ymddwyn fel pobl sydd heb dderbyn yr Ysbryd. Mae’r holl genfigennu a’r ffraeo sy’n mynd ymlaen yn warthus. Dych chi’n ymddwyn fel petaech chi ddim yn Gristnogion o gwbl. 4Pan mae un yn dweud, “Dw i’n dilyn Paul,” ac un arall, “Dw i’n dilyn Apolos,” dych chi’n ymddwyn yn union fel pawb arall!
5Pwy ydy Apolos? Pwy ydy Paul? Dim ond gweision! Trwon ni y daethoch chi i gredu, ond dim ond gwneud ein gwaith oedden ni – gwneud beth oedd Duw wedi’i ddweud wrthon ni. 6Fi blannodd yr had, wedyn daeth Apolos i’w ddyfrio.#Actau 18:24-28 Ond Duw wnaeth iddo dyfu, dim ni! 7Dydy’r plannwr a’r dyfriwr ddim yn bwysig. Dim ond Duw, sy’n rhoi’r tyfiant. 8Mae’r plannwr a’r dyfriwr eisiau’r un peth. A bydd y ddau’n cael eu talu am eu gwaith eu hunain. 9Dŷn ni’n gweithio fel tîm i Dduw, a chi ydy’r maes mae Duw wedi’i roi i ni weithio ynddo. Neu, os mynnwch chi, dych chi fel adeilad – 10fi gafodd y fraint a’r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi’r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, 11am mai dim ond un sylfaen sy’n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia. 12Mae’n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda choed, gwair a gwellt 13– bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi’i wneud. 14Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo. 15Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw’n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw’n llwyddo i ddianc o’r fflamau!
16Ydych chi ddim yn sylweddoli mai chi gyda’ch gilydd ydy teml Dduw, a bod Ysbryd Duw yn aros yn y deml yna? 17Bydd Duw yn dinistrio unrhyw un sy’n dinistrio’i deml e. Mae teml Dduw yn gysegredig. A chi ydy’r deml honno!
18Mae’n bryd i chi stopio twyllo’ch hunain! Os ydych chi wir yn meddwl eich bod chi’n ddoeth, rhaid i chi fod yn ‘dwp’ yng ngolwg y byd i fod yn ddoeth go iawn! 19Mae clyfrwch y byd yn dwp yng ngolwg Duw. Yr ysgrifau sanctaidd sy’n dweud: “Mae Duw’n gwneud i glyfrwch pobl eu baglu nhw”#Job 5:13 20a hefyd, “Mae’r Arglwydd yn gwybod fod rhesymu clyfar pobl yn wastraff amser.”#Salm 94:11 (LXX) 21Felly, peidiwch brolio am ddynion! Mae’r cwbl yn eiddo i chi – 22Paul, Apolos, Pedr,#3:22 Pedr: gw. nodyn ar 1:12. y byd, bywyd, marwolaeth, y presennol, y dyfodol – chi biau nhw i gyd! 23A dych chi’n eiddo i’r Meseia, a’r Meseia i Dduw.

Dewis Presennol:

1 Corinthiaid 3: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd