Rhufeiniaid 10
10
1Brodyr, ewyllys fy nghalon a’m gweddi ar Dduw, trostynt hwy, er iachawdwriaeth, y maent; 2canys tyst wyf iddynt fod sel i Dduw ganddynt, eithr nid yn ol gwybodaeth: 3canys heb wybod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio sefydlu eu cyfiawnder eu hunain, 4i gyfiawnder Duw nid ymostyngasant, canys diwedd y Gyfraith yw Crist, er cyfiawnder i bob un sy’n credu. 5Canys Mosheh a ’sgrifenodd mai’r “dyn y sy’n gwneuthur y cyfiawnder y sydd o’r Gyfraith, a fydd byw trwyddo.” 6Ond y cyfiawnder y sydd o ffydd, fel hyn y dywaid, Na ddywaid yn dy galon, Pwy a esgyn i’r nef? (hyny yw i ddwyn Crist i wared); 7neu, Pwy a ddisgyn i’r dyfnder? (hyny yw i ddwyn Crist i fynu o feirw). 8Eithr pa beth a ddywaid efe? Agos attat y mae’r gair, yn dy enau ac yn dy galon, hyny yw, gair ffydd yr hwn yr ydym yn ei bregethu; 9mai os cyfaddefi â’th enau yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon y bu i Dduw Ei gyfodi Ef o feirw, cadwedig fyddi; 10canys â’r galon y credir i gyfiawnder, ac â’r genau y cyfaddefir i iachawdwriaeth, 11canys dywaid yr Ysgrythyr, “Pob un y sy’n credu Ynddo Ef, ni chywilyddir;” 12canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iwddew a Groegwr, canys yr un yw Arglwydd pawb, yn oludog i bawb y sy’n galw Arno; 13canys pob un a alwo ar enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. 14Pa fodd, ynte, y galwent ar yr Hwn na chredasant ynddo? A pha fodd y credent yn yr Hwn na chlywsant? A pha fodd y clywent heb un yn cyhoeddi? 15A pha fodd y cyhoeddent, os na ddanfonwyd hwynt? Fel yr ysgrifenwyd,
“Mor brydferth yw traed y rhai yn efengylu pethau da!”
16Eithr nid pawb a wrandawodd y newyddion da, canys Eshaiah a ddywaid,
“Arglwydd, pwy a gredodd i’n hymadrodd?”
17Felly, ffydd, trwy glywed y mae; a chlywed trwy air Crist. 18Eithr dywedyd yr wyf, Oni chlywsant hwy? Do, yn wir,
“I’r holl ddaear yr aeth eu swn allan;
Ac i holl derfynau’r byd, eu geiriau hwynt.”
19Eithr dywedaf, Oni fu i Israel wybod? Y cyntaf, Mosheh a ddywaid,
“Myfi a yrraf eiddigedd arnoch, trwy’r rhai nad ydynt genedl,
Trwy genedl anneallus y digiaf chwi.”
20Ac Eshaiah sydd hyderus iawn, ac a ddywaid,
“Cafwyd Fi gan y rhai na cheisient Fi;
Eglur y’m gwnaethpwyd i’r rhai nad ymofynent am Danaf.”
21Ond wrth Israel y dywaid efe,
“Yr holl ddydd y lledais Fy nwylaw at bobl anufudd ac yn gwrthddywedyd.”
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 10: CTB
Uwcholeuo
Copi
Cymharu
Rhanna
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.

: