Iöb 42
42
XLII.
  1Yna yr attebod Iöb i Iehofah, a dywedodd,
  2Gwn mai pob peth a elli Di,
Ac nad oes rwystr arnat Ti am ddim amcan.
  3  #  42:3   cyf: at eiriau Duw 38:2.  “Pwy yw ’r hwn sy’n cuddio cynghor, heb wybodaeth?”
Gan hynny — lleferais, ond heb i mi ddeall,
Bethau rhŷ ryfedd i mi, ond nid oeddwn yn ei wybod.
  4Gwrando, attolwg, a myfi a lefaraf;
“#42:4 anturia efe lefaru am i Dduw ei annog i hynny yn y geiriau hyn. 38:3. 40:7.Gofynaf i ti, a gwna dithau i Mi wybod:”
  5Gyda chlyw y glust y clywn am danat Ti,
Ond yn awr fy llygad a’th welodd;
  6Am hynny, ymwrthod yr wyf (a’m geiriau) ac edifarhâu
Mewn llwch a lludw!
  7A bu, wedi dywedyd o Iehofah y geiriau hyn wrth Iöb, i Iehofah ddywedyd wrth Eliphaz y Temaniad, “Ennynu y mae Fy nigofaint yn dy erbyn di ac yn erbyn dy ddau gyfaill, canys ni ddywedasoch am danaf Fi yr (hyn sydd) uniawn, fel Fy ngwas Iöb; 8Ac yn awr cymmerwch chwi saith o deirw ieuaingc a saith o hyrddod, ac ewch at Fy ngwas Iöb, a pherwch offrymmiad poeth ofirwm drosoch chwi, a bydded i Fy ngwas Iöb weddïo drosoch chwi, canys ei wyneb ef a dderbyniaf Fi, fel na ddygwyf i ben arnoch gospedigaeth (eich) ffolineb, am na ddywedasoch am danaf Fi yr (hyn sydd) uniawn, fel Fy ngwas Iöb.”
  9Yna yr aeth Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Shwhiad, (a) Tsophar y Naamathiad, ac y gwnaethant fel y dywedasai Iehofah wrthynt, a derbyniodd Iehofah wyneb Iöb.
  10Ac Iehofah a ddug yn ol yr hyn a ddygpwyd oddi wrth Iöb, am iddo weddïo dros ei gyfaill; ac Iehofah a chwannegodd yr hyn oll a (fuasai) gan Iöb, yn ddau ddyblyg.
  11Yna y daeth atto ef ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a bwyttasant gydag ef fara yn ei dŷ ef, a diddanasant ef, a chysurasant ef am yr holl ddrwg a ddygasai Iehofah arno ef, a #42:11 Y mae’r arfer hon o anrhegu cyfeillion, pan ymwelir â hwynt, mewn bod hyd heddyw yn y dwyrain.rhoddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un fodrwy aur.
  12Ac Iehofah a fendithiodd ddiwedd Iöb yn fwy na’i ddechreuad; ac yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau o wartheg, a mil o asenod; 13ac yr oedd iddo saith o feibion a thair o ferched, 14ac efe a alwodd enw y gyntaf Iemimah, ac enw yr ail Cetsïah, ac enw y drydedd Ceren-happwc; 15ac ni cheid gwragedd mor dlosgain a merched Iöb yn yr holl wlad; a rhoddes eu tad iddynt etifeddiaeth ym mhlith eu brodyr.
  16A bu byw Iöb wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd, ac efe a welodd ei feibion, a meibion ei feibion, pedair cenhedlaeth. 17A threngodd Iöb, yn hên ac yn orlawn o ddyddiau.
      Dewis Presennol:
Iöb 42: CTB
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.

: