Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 3

3
1Yn y cyfnod hwnnw y daeth loan y Bedyddiwr i'r amlwg, yn pregethu yn anialwch Jwdea, ac yn dweud, 2“Edifarhewch! Mae teyrnas y nefoedd ar ddod.” 3Dyma'r dyn y soniodd y proffwyd Eseia amdano pan ddywedodd,
Mae llais rhywun yn galw yn yr anialwch:
Gwnewch y ffordd yn barod ar gyfer yr Arglwydd,
Gwnewch y llwbrau'n sythion ar ei gyfer ef.
4Yr oedd gan yr Ioan yma ddillad wedi'u gwneud o flew camel, a gwregys o groen am ei ganol, a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt. 5Ac yr oedd pobol Jerwsalem, a Jwdea i gyd, a'r holl wlad o gwmpas Afon Iorddonen, 6yn tyrru allan ato, ac yntau'n eu bedyddio yn Afon Iorddonen wedi'u cael i gyffesu'u pechodau.
7Ond pan welodd ef fod llawer o Ffariseaid a Sadwceaid yn dod i gael bedydd ganddo, fe ddywedodd wrthynt,
“Chi epil nadroedd, pwy ddwedodd wrthych chi am ddianc rhag y dial sy'n dod? 8'Nawr ynte, tyfwch ffrwythau yn eich bywyd sy'n dangos eich bod-chi'n edifar, 9yn lle bodloni ar ddweud wrthych eich hunain, 'Mae Abraham yn dad i ni'. 'R wy'n dweud wrthych-chi y gall Duw godi plant i Abraham hyd oed o'r cerrig hyn! 10Mae'r fwyell wedi'i gosod yn barod wrth wraidd y coed; pob pren heb ffrwythau da arno fe dorrir hwnnw i lawr a'i daflu i'r tân.
11“Yr ydw' i'n eich bedyddio-chi â dŵr y yn arwydd o'ch edifeirwch. Ond mae'r hwn sy'n dod ar f'ôl i yn gryfach na mi, yn wir, 'd ydw' i ddim ffit i gario'i sandalau iddo. Mae o'n mynd i'ch bedyddio-chi â'r Ysbryd Sanctaidd a thân. 12Mae'i wyntyll ganddo yn ei law, ac wedi iddo orffen nithio bydd ei lawr dyrnu'n lân, ac yntau'n casglu'r gwenith i'r ysgubor; ond am yr us, mae'n mynd i losgi hwnnw â thân na fydd dim modd ei ddiffodd.”
13Yna fe ddaeth Iesu o Galilea at Afon Iorddonen, i'w fedyddio gan Ioan. 14Ond fe geisiodd Ioan ei rwystro; fe ddwyedodd wrtho,
“Fi 'ddylai gael fy medyddio gennyt ti, a dyma ti'n dod ataf i!”
15Ond fe atebodd Iesu,
“Gad i hynny fod 'nawr. Wrth wneud hyn yr ydy-ni'n gwneud y peth iawn yng ngolwg Duw.”
Ac fe ildiodd Ioan iddo.
16Felly y bedyddiwyd Iesu. Fe ddaeth i fyny ar ei union o'r dŵr, a'r foment honno dyna'r nefoedd yn agor, ac yntau'n gweld Ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn sefyll arno. 17A dyna lais o'r nefoedd yn dweud,
“Dyma fy Mab, yr Anwylyd, sydd wrth fy modd.”

Dewis Presennol:

Mathew 3: MATIFE61

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda