Logo Ap Beibl
Eicon Chwilio

I Macabeiad 16

16
PENNOD 16
1A Ioan a aeth i fyny o Gasara, ac a fynegodd i Simon ei dad yr hyn a wnaethai Cendebeus.
2A Simon a alwodd ei ddau fab hynaf, Jwdas a Ioan, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a’m brodyr a thŷ fy nhad a ryfelasom yn erbyn gelynion Israel o’n hieuenctid hyd heddiw: ac fe a ffynnodd gennym ni waredu Israel lawer gwaith.
3Ond yr awron mi a heneiddiais, a chwithau trwy drugaredd Dduw ydych yn ddigon oedrannus: byddwch chwi yn fy lle i a’m brawd, ac ewch allan, a rhyfelwch dros ein cenedl; a’r cymorth o’r nef a fyddo gyda chwi.
4Ac efe a etholodd o’r wlad ugain mil o ryfelwyr, a gwŷr meirch; a hwy a aethant yn erbyn Cendebeus, ac a gysgasant ym Modin.
5A hwy godasant yn fore, ac a aethant i’r maes; ac wele lu mawr yn dyfod yn eu herbyn hwynt ar draed ac ar feirch: ac yr oedd aber ddwfr yn y canol rhyngddynt.
6Ac efe a wersyllodd o’u blaen hwynt, efe a’i bobl: a phan welodd efe y bobl yn ofni myned trwy’r aber ddwfr, efe a aeth trwodd yn gyntaf; a’r gwŷr a’i gwelsant ef, a hwythau a aethant ar er ôl ef.
7Yna y rhannodd efe’r bobl, a’r gwŷr meirch a roddwyd yng nghanol y gwŷr traed; oblegid gwŷr meirch y gelynion oedd lawer iawn.
8Yna y canasant â’r utgyrn sanctaidd: ac ar hynny y ffodd Cendebeus a’i lu, llawer ohonynt a syrthiasant yn archolledig, a’r lleill a ffoesant i’r castell.
9Yna y clwyfwyd Jwdas brawd Ioan: eithr Ioan a’u hymlidiodd hwynt hyd oni ddaeth efe i Cedron, yr hon a adeiladasai Cendebeus.
10A hwy a ffoesant hyd y tyrau sydd ym maes Asotus; ac yntau a’i llosgodd hi â thân; ac fe syrthiodd ohonynt hwy gymaint â dwy fil o wŷr: ac efe a ddychwelodd i dir Jwdea yn heddychlon.
11Ac yr oedd Ptolemeus mab Abubus wedi ei osod yn gapten ym maes Jericho; ac yr oedd ganddo ef arian ac aur lawer;
12Oblegid daw’r archoffeiriad oedd efe.
13A’i galon a’i cododd ef, ac efe a chwenychodd feddiannu y wlad, ac a fwriadodd trwy dwyll yn erbyn Simon a’i feibion, i’w difetha hwynt.
14Ac yr oedd Simon yn rhodio trwy ddinasoedd y wlad, ac yn ofalus am eu llywodraeth hwynt: ac efe a aeth i waered i Jericho, efe, a Matatheias, a Jwdas, ei feibion, yn yr ail flwyddyn ar bymtheg a thrigain a chant, yn yr unfed mis ar ddeg, hwn yw’r mis Sabat.
15A mab Abubus a’u derbyniodd hwynt trwy dwyll i gastell a elwid Docus, yr hwn a adeiladasai efe, ac efe a wnaeth iddynt wledd fawr, ac a guddiodd yno wŷr.
16Ac wedi yfed o Simon a’i feibion yn dda, y cododd Ptolemeus a’r rhai oedd gydag ef; a hwy a gymerasant eu harfau, ac a ruthrasant i Simon yn y wledd, ac a’i lladdasant ef a’i ddau fab, a rhai o’i weision.
17Felly y gwnaeth efe ysgelerder mawr, ac y talodd ddrwg am dda.
18A Ptolemeus a sgrifennodd hyn, ac a anfonodd at y brenin i anfon ato ef lu yn gymorth, ac efe a roddai iddo ef y wlad a’r dinasoedd.
19Ac efe a yrrodd eraill i Gasara i ddifetha Ioan; ac a anfonodd lythyrau at y milwriaid, i erchi iddynt ddyfod ato ef, fel y rhoddai efe iddynt arian, ac aur, a rhoddion.
20Ac efe a yrrodd eraill i ennill Jerwsalem a mynydd y deml.
21Ac un a redodd o’r blaen, ac a fynegodd i Ioan yn Gasara ddarfod lladd ei dad ef, a’i frodyr: ac efe a anfonodd i’th ladd dithau, eb efe.
22Yntau, pan glybu, a ofnodd yn ddirfawr, ac a ddaliodd y gwŷr a ddaethai i’w ladd ef, ac a’u lladdodd hwynt: oblegid efe a wybu eu bod hwy yn ceisio ei ddifetha ef.
23A’r rhan arall ohanes Ioan, a’i ryfeloedd, a’i wrolaeth, yr hyn a wnaeth efe, ac adeiladaeth y caerdu a adeiladodd efe, a’i weithredoedd,
24Wele, fe a sgrifennwyd hyn yn llyfrau Cronicl ei archoffeiriadaeth ef, erpan wnaeth pwyd ef yn archoffeiriad ar ôl ei dad.

Dewis Presennol:

I Macabeiad 16: BWMA

Uwcholeuo

Copi

Cymharu

Rhanna

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda