Mewn gwelltog borfaoedd i orwedd fe’m rhydd;
Tawela fy nghalon, siriola fy ngwedd,
Wrth ddyfroedd grisialaidd arafaidd yr hedd.
O eithaf y ddaear fy llefain a glyw,
A’m henaid o’i lewyg a ddychwel yn fyw;
Fe’m harwain ar lwybrau cyfiawnder, bob un,
Er mwyn ei ddiwaeledd anrhydedd ei hun.