Wedi iddyn nhwy gâl brecwast gwedo Iesu wrth Simon Pedr, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu i in fwy na'r pethe 'ma?” Gwedodd e wrtho, “Wdw, Arglwidd, wit ti'n gwbod bo fi'n di garu di.” Gwedodd e wrtho “Bwyda in ŵyn i.” Gwedodd e wrtho weth, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu?” Gwedodd e wrtho, “Wdw, Arglwidd, wit ti'n gwbod bo fi'n di garu di.” Gwedodd e wrtho, “Gofal am in ddefed i.” Gwedodd e wrtho shwrne 'to, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu i?” We Pedr in gofidio achos i fod e wedi gofyn teirgwaith, “Wit ti'n ing garu i?”, a gwedodd e wrtho, “Arglwidd, wit ti'n gwbod popeth; wit ti'n gwbod bo fi in di garu di.” Gwedo Iesu wrtho, “Bwyda in ddefed i. Dw i'n gweud i gwir wrtho ti, pan wet ti'n ifancach, we ti'n clwmu di felt di unan rownd di ganol a'n mynd i ble binnag wet ti moyn; ond pan fyddi di'n hen, biddi di'n rhoi di ddwylo mas a bydd rhiwun arall in clwmu'r belt am di ganol a'n mynd â ti i ble wit ti ddim moyn mynd.” Wedodd e hyn i ddangos trw shwt farwoleth bidde Pedr in rhoi gogoniant i Dduw. Wedi 'ddo weud hyn gwedodd Iesu wrtho fe, “Dilyna fi.”
Troio Pedr rownd a gweld i disgibl we Iesu in i garu in dilyn. (Fe we'r un we wedi pligu nôl in i swper i holi, “Arlgwidd, pwy yw e sy'n rhoi ti lan?”) Pan welo Pedr e gwedodd e wrth Iesu, “Arglwidd, beth amdano fe?” Gwedo Iesu wrtho, “Os dw i am iddo fe aros nes bo fi'n dod, beth yw 'na i ti? Rhaid iti in ddilyn i.” So ddechreuodd i brodyr glebran rhynt i gily na fidde'r disgibl chwnnw'n marw. Ond nâth Iesu ddim gweud wrtho fe na fidde-fe'n marw, ond, “Os dw i am iddo fe aros nes bo fi'n dod, beth yw 'na i ti?”
Hwn yw'r disgibl sy'n gweud i pethe 'ma a'n gweud u bod nhwy'n wir fel man nhwy wedi câl u reito lawr fan 'yn, a ŷn ni'n gwbod bod i air e'n wir.
Nâth Iesu lot o bethe erill; sen nhwy'n câl u reito lawr un wrth un, sa i'n credu bidde'r byd i gyd in ddigon mowr i ddala'r llifre'n câl u reito.