1
Rhufeiniaid 4:20-21
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
CTE
ond gyda golwg ar Addewid Duw nid ammheuodd trwy annghrediniaeth, eithr efe a nerthwyd trwy ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw, ac wedi cael sicrwydd hollol ei fod yn alluog i gyflawnu hefyd yr hyn a addawodd
Cymharu
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:20-21
2
Rhufeiniaid 4:17
(fel y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dâd Cenhedloedd lawer) gerbron yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:17
3
Rhufeiniaid 4:25
yr hwn a draddodwyd o achos ein troseddau ni, ac a gyfodwyd er mwyn ein cyfiawnhad.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:25
4
Rhufeiniaid 4:18
yr hwn tuhwnt i obaith mewn gobaith a gredodd, fel y byddai yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ol yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy hâd di.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:18
5
Rhufeiniaid 4:16
Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ol gras, fel y byddai yr Addewid yn sicr i'r holl hâd; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:16
6
Rhufeiniaid 4:7-8
Gwyn fyd y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, ac y cuddiwyd eu pechodau. Gwyn fyd y gŵr i'r hwn ni chyfrif yr Arglwydd bechod o gwbl.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:7-8
7
Rhufeiniaid 4:3
Canys beth a ddywed yr ysgrythyr? A chredodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder.
Archwiliwch Rhufeiniaid 4:3