1
Numeri 22:28
beibl.net 2015, 2024
bnet
Ac yna dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r gallu i’r asen siarad. Meddai wrth Balaam, “Beth dw i wedi’i wneud i haeddu cael fy nghuro gen ti dair gwaith?”
Cymharu
Archwiliwch Numeri 22:28
2
Numeri 22:31
A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD adael i Balaam weld yr angel yn sefyll yn y ffordd yn chwifio’i gleddyf. A dyma fe’n ymgrymu a mynd ar ei wyneb ar lawr o flaen yr angel.
Archwiliwch Numeri 22:31
3
Numeri 22:32
A dyma’r angel yn gofyn iddo, “Pam wyt ti wedi curo dy asen fel yna dair gwaith? Dw i wedi dod allan i dy rwystro di am dy fod ti ar ormod o frys yn fy ngolwg i.
Archwiliwch Numeri 22:32
4
Numeri 22:30
Dyma’r asen yn dweud wrth Balaam, “Ond dy asen di ydw i, yr un rwyt ti bob amser yn reidio ar ei chefn! Ydw i wedi gwneud rhywbeth fel yma o’r blaen?” “Naddo,” meddai Balaam.
Archwiliwch Numeri 22:30
5
Numeri 22:29
“Ti wedi gwneud i mi edrych yn ffŵl,” meddai Balaam. “Petai gen i gleddyf, byddwn i wedi dy ladd di erbyn hyn!”
Archwiliwch Numeri 22:29
6
Numeri 22:27
Y tro yma, pan welodd yr angel, dyma asen Balaam yn gorwedd i lawr tano. Roedd Balaam wedi gwylltio’n lân, ac roedd yn curo’r anifail gyda’i ffon.
Archwiliwch Numeri 22:27
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos