1
Eseia 65:24
beibl.net 2015, 2024
bnet
Bydda i’n ateb cyn iddyn nhw alw arna i; bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad.
Cymharu
Archwiliwch Eseia 65:24
2
Eseia 65:17
Achos dw i’n mynd i greu nefoedd newydd a daear newydd! Bydd pethau’r gorffennol wedi’u hanghofio; fyddan nhw ddim yn croesi’r meddwl.
Archwiliwch Eseia 65:17
3
Eseia 65:23
Fyddan nhw ddim yn gweithio’n galed i ddim byd; fyddan nhw ddim yn magu plant i’w colli. Byddan nhw’n bobl wedi’u bendithio gan yr ARGLWYDD, a’u plant gyda nhw hefyd.
Archwiliwch Eseia 65:23
4
Eseia 65:22
Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth. Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden; bydd y rhai dw i wedi’u dewis yn cael mwynhau’n llawn waith eu dwylo.
Archwiliwch Eseia 65:22
5
Eseia 65:20
Fydd babis bach ddim yn marw’n ifanc, na phobl mewn oed yn marw’n gynnar. Bydd rhywun sy’n marw yn gant oed yn cael ei ystyried yn llanc ifanc, a’r un sy’n marw heb gyrraedd y cant yn cael ei ystyried dan felltith.
Archwiliwch Eseia 65:20
6
Eseia 65:25
Bydd y blaidd a’r oen yn pori gyda’i gilydd, a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych; ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr. Fyddan nhw’n gwneud dim drwg na niwed yn fy mynydd cysegredig i.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
Archwiliwch Eseia 65:25
7
Eseia 65:19
Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi, a’m pobl yn gwneud i mi ddathlu. Fydd sŵn crio a sgrechian ddim i’w glywed yno byth eto.
Archwiliwch Eseia 65:19
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos