1
Actau 14:15
beibl.net 2015, 2024
bnet
“Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma’r Duw wnaeth greu popeth – yr awyr a’r ddaear a’r môr a’r cwbl sydd ynddyn nhw!
Cymharu
Archwiliwch Actau 14:15
2
Actau 14:9-10
Roedd yn gwrando ar Paul yn siarad. Roedd Paul yn edrych arno, a gwelodd fod gan y dyn ffydd y gallai gael ei iacháu. Meddai wrtho yng nghlyw pawb, “Saf ar dy draed!”, a dyma’r dyn yn neidio ar ei draed yn y fan a’r lle ac yn dechrau cerdded.
Archwiliwch Actau 14:9-10
3
Actau 14:23
Peth arall wnaeth Paul a Barnabas oedd penodi grŵp o arweinwyr ym mhob eglwys. Ar ôl ymprydio a gweddïo dyma nhw’n eu gadael yng ngofal yr Arglwydd roedden nhw wedi credu ynddo.
Archwiliwch Actau 14:23
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos