Un tro digwyddodd hynny pan oedd rhyw ddyn yn cael ei gladdu. Dyma’r bobl oedd yn ei gladdu yn gweld un o’r criwiau yna o Moab yn dod, felly dyma nhw’n taflu corff y dyn marw i mewn i fedd Eliseus a dianc. Pan gyffyrddodd y corff esgyrn Eliseus, daeth yn ôl yn fyw a chodi ar ei draed.