1
2 Corinthiaid 1:3-4
beibl.net 2015, 2023
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy’r Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni’n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw’n ein cysuro ni.
Cymharu
Archwiliwch 2 Corinthiaid 1:3-4
2
2 Corinthiaid 1:5
Po fwya dŷn ni’n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni’n cael ein cysuro ganddo.
Archwiliwch 2 Corinthiaid 1:5
3
2 Corinthiaid 1:9
a’n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni’n hunain. Fe ydy’r Duw sy’n dod â’r meirw yn ôl yn fyw!
Archwiliwch 2 Corinthiaid 1:9
4
2 Corinthiaid 1:21-22
A Duw ydy’r un sy’n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto, ac mae wedi’n marcio ni’n bobl iddo’i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o’r cwbl sydd i ddod.
Archwiliwch 2 Corinthiaid 1:21-22
5
2 Corinthiaid 1:6
Dŷn ni’n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a’ch cadw’n saff. Pan dŷn ni’n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a’ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi’n dioddef yr un fath â ni.
Archwiliwch 2 Corinthiaid 1:6
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos