Roedd y cerddorion a’r trwmpedwyr fel un, yn canu gyda’i gilydd i roi mawl a diolch i’r ARGLWYDD. I gyfeiliant yr utgyrn, y symbalau a’r offerynnau eraill, roedd pawb yn moli’r ARGLWYDD a chanu’r geiriau,
“Mae e mor dda aton ni;
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
Tra oedden nhw’n canu fel hyn daeth cwmwl a llenwi’r deml. Doedd yr offeiriaid ddim yn gallu cario ymlaen gyda’i gwaith o achos y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi Teml Dduw.