1
Lyfr y Psalmau 72:18
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
SC1850
Bendigaid fyddo ’r Arglwydd Dduw, Duw Israel, Arglwydd Jacob yw; Ei waith ei Hun a’i allu mawr Yw rhyfeddodau nef a llawr.
Cymharu
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 72:18
2
Lyfr y Psalmau 72:19
Gogoned Enw Duw di‐lyth A fyddo ’n fendigedig byth; Clod a gogoniant mawr ei ras Fo ’n toi cwmpasoedd daear las.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 72:19
3
Lyfr y Psalmau 72:12-13
Canys Efe a wrendy lais Y tlawd — fe’i gweryd ef rhag trais; Gweryd y rheidus gwael a gwan A’r ni bo noddwr ar ei ran. Ei ffafr a rydd i’r tlawd a’r gwael, I’r truain rhanna ’i roddion hael; Gwaedd yr anghenog rai a glyw, Achubydd eu heneidiau yw.
Archwiliwch Lyfr y Psalmau 72:12-13