Efe sy ’n maddeu ’th feiau ’n rhad,
Ac i’th holl lesgedd rhydd iachâd,
I’th ddwyn i gaerau ’r nefoedd wen;
D’ einioes o ddistryw gweryd Ef,
A gras a hael dosturi ’r nef
A rydd yn goron ar dy ben.
Dy enau a ddiwalla ’i ddawn,
Cei bob daioni ’n lluniaeth llawn;
Fel eryr adnewydda ’th oes.