1
Rhufeiniaid 12:2
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Ac nac ymagweddwch yn ôl yr oes hon, eithr trawsffurfier chwi trwy adnewyddiad y meddwl, fel y profoch beth yw ewyllys Duw, y peth sy dda a boddhaol a chyflawn.
Cymharu
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:2
2
Rhufeiniaid 12:1
Gan hynny, frodyr, erfyniaf arnoch trwy dosturiaethau Duw, gyflwyno eich cyrff yn aberth byw, sanctaidd, wrth fodd Duw, eich rhesymol addoliad chwi.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:1
3
Rhufeiniaid 12:12
yn llawenhau mewn gobaith; yn ymgynnal dan orthrymder; yn dyfalbarhau mewn gweddi
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:12
4
Rhufeiniaid 12:21
Na’th goncrer di gan y drwg, eithr concra di y drwg trwy’r da.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:21
5
Rhufeiniaid 12:10
Mewn brawdgarwch byddwch dyner eich serch tuag at eich gilydd; mewn rhoi parch yn rhagori ar eich gilydd
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:10
6
Rhufeiniaid 12:9
Boed eich cariad yn ddiragrith. Ffieiddiwch ddrygioni, glynwch wrth ddaioni.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:9
7
Rhufeiniaid 12:18
Os yn bosibl, o’ch rhan chwi, boed heddwch rhyngoch a phob dyn.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:18
8
Rhufeiniaid 12:19
Nac ymddielwch, anwyliaid; yn hytrach, rhowch gyfle i’w ddigofaint ef, canys ysgrifenedig yw: Myfi piau dialedd, myfi a dalaf yn ôl, medd yr Arglwydd.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:19
9
Rhufeiniaid 12:11
mewn brwdfrydedd yn ddi-ildio; yn ferw eich ysbryd; yn gwasanaethu’r Arglwydd
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:11
10
Rhufeiniaid 12:3
Trwy’r gras a roddwyd i mi, dywedaf wrth bob un sydd yn eich plith, na osodo ei fryd ar ddim yn uwch nag y dylai, eithr rhoi ei fryd ar fod yn gymedrol, yn ôl y mesur o ffydd a rannodd Duw i bob un.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:3
11
Rhufeiniaid 12:17
Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau anrhydeddus gerbron pob dyn.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:17
12
Rhufeiniaid 12:16
Byddwch yn unfryd â’ch gilydd, heb roi eich bryd ar uchel bethau, ond bod yn gynefin â phethau distadl. Na fyddwch gall yn eich golwg eich hunain.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:16
13
Rhufeiniaid 12:20
Eithr os newyna dy elyn portha ef; os sycheda, dioda ef; canys wrth wneuthur hyn ti bentyrri farwor tanllyd ar ei ben.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:20
14
Rhufeiniaid 12:14-15
Bendithiwch y rhai a’ch erlidia, bendithiwch ac na felltithiwch. Llawenhewch gyda’r rhai a lawenhâ; wylwch gyda’r rhai a wyla.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:14-15
15
Rhufeiniaid 12:13
yn cyfrannu tuag at anghenion y saint; yn arfer lletygarwch.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:13
16
Rhufeiniaid 12:4-5
Oblegid megis mewn un corff y mae gennym aelodau lawer, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un gwaith, felly nyni, sy’n llawer, un corff ydym yng Nghrist, ac aelodau bob un o’n gilydd.
Archwiliwch Rhufeiniaid 12:4-5