1
Mathew 13:23
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
A’r un a heuwyd ar y tir da, hwn yw’r un a glyw’r gair ac a’i deall, a hwnnw a ddwg ffrwyth ac a rydd beth gant, peth drigain, a pheth ddeg ar hugain.”
Cymharu
Archwiliwch Mathew 13:23
2
Mathew 13:22
A’r un a heuwyd yn y drain, hwn yw’r un a glyw’r gair, a phryder y byd a hudoliaeth golud a dag y gair, a diffrwyth fydd.
Archwiliwch Mathew 13:22
3
Mathew 13:19
Pan glywo neb air y deyrnas a heb ei ddeall, fe ddaw’r un drwg, a chipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Hwn yw’r un a heuwyd ar fin y ffordd.
Archwiliwch Mathew 13:19
4
Mathew 13:20-21
A’r un a heuwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un a glyw’r gair ac yn ebrwydd gyda llawenydd a’i derbyn ef; ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo’i hun, eithr dros amser y mae, a phan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair; yn ebrwydd y rhwystrir ef.
Archwiliwch Mathew 13:20-21
5
Mathew 13:44
Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn a gafodd dyn a’i guddio, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sy ganddo, ac yn prynu’r maes hwnnw.
Archwiliwch Mathew 13:44
6
Mathew 13:8
Ac eraill a syrthiodd ar y tir da; a rhoi ffrwyth, peth gant, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.
Archwiliwch Mathew 13:8
7
Mathew 13:30
Gedwch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf; ac yn amser y cynhaeaf mi ddywedaf wrth y medelwyr, ‘Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn sypiau i’w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i’m hysgubor’.”
Archwiliwch Mathew 13:30
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos