Myfi wyf yn myned ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd ŵr; A chadw gadwraeth yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd ef, i gadw ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, a’i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses; fel y llwyddych yn yr hyn oll a wnelych, ac i ba le bynnag y tröech: Fel y cyflawno yr ARGLWYDD ei air a lefarodd efe wrthyf, gan ddywedyd, Os dy feibion a gadwant eu ffyrdd, i rodio ger fy mron mewn gwirionedd, â’u holl galon, ac â’u holl enaid, ni thorrir (eb efe) na byddo ohonot ŵr ar orseddfainc Israel.