1
Eshaiah 53:5
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Ond efe a drywanwyd am ein camweddau ni, Efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni, Cerydd ein heddychiad ni (oedd) arno ef, A thrwy ei gleisiau ef yr iachâwyd nyni.
Cymharu
Archwiliwch Eshaiah 53:5
2
Eshaiah 53:6
Nyni oll, fel defaid, a grwydrasom, Pawb i’w ffordd ei hun y troisom, A gwnaeth IEHOFAH i ruthro arno ef Ein hanwiredd ni i gyd.
Archwiliwch Eshaiah 53:6
3
Eshaiah 53:4
Dïau, ein gwendidau efe a gymmerth, A’n doluriau efe a’u dug, Etto nyni a’i cyfrifasom ef wedi ei bläu, Ei daro gan Dduw, a’i gystuddio.
Archwiliwch Eshaiah 53:4
4
Eshaiah 53:3
Dirmygwyd ef, a diystyrwyd gan ddynion, Gwr gofidiau, a chynnefin â dolur; Ac megis un yn cuddio ei wyneb oddi wrthym Dirmygwyd ef, ac ni wnaethom gyfrif o hono.
Archwiliwch Eshaiah 53:3
5
Eshaiah 53:7
Efe a orthrymmwyd, ac efe a gystuddiwyd, Ond nid agorai ei enau; Fel oen i’r lladdfa yr arweinir ef; Ac fel dafad o flaen ei chneifiwŷr yn tewi, Felly nid agorai yntau ei enau.
Archwiliwch Eshaiah 53:7
6
Eshaiah 53:10
Ond IEHOFAH a ewyllysiodd ei ddryllio ef, Efe a ’i clwyfodd (gan ddywedyd) Os dodir 『 2 ei enaid ef』 yn 『 1 aberth dros bechod,』 Efe a wêl (ei) hâd, efe a estyn (ei) ddyddiau, Ac ewyllys IEHOFAH yn ei law ef a lwydda
Archwiliwch Eshaiah 53:10
7
Eshaiah 53:2
Canys efe a dŷf fel blaguryn o’i flaen Ef, Ac fel gwreiddyn o dir sych. Nid oes pryd iddo, na thegwch fel y syllem arno, Ac nid oes gwynebpryd fel y dymunem ef.
Archwiliwch Eshaiah 53:2
8
Eshaiah 53:12
Am hynny y rhannaf iddo ran gyda ’r mawrion, A chyda ’r cedyrn efe a ranna ’r yspail, Am iddo dywallt 『 2 ei enaid』 i 1 farwolaeth, a chyda ’r troseddwŷr ei gyfrif, Ac iddo ddwyn pechodau llaweroedd, a thros y troseddwŷr eirioli.
Archwiliwch Eshaiah 53:12
9
Eshaiah 53:11
O lafur ei enaid y gwêl, ac y diwellir, Trwy ei wybodaeth y cyfiawnhâ Fy nghyfiawn was laweroedd, Canys eu hanwireddau hwynt efe a ddwg.
Archwiliwch Eshaiah 53:11
10
Eshaiah 53:8
Trwy ormes a barn y dygpwyd ef ymaith; A’i fuchedd ef pwy a fynega? Canys efe a dorrwyd o dir y rhai byw, Am gamwedd Fy mhobl (yr oedd) pla arno.
Archwiliwch Eshaiah 53:8
11
Eshaiah 53:9
A 『 2 chyda’r rhai anwir』 1 pennodwyd ei fedd, Ond gyda’r cyfoethog (y mae) ei gladdfa; Canys cam nis gwnaeth, Ac nid (oedd) twyll yn ei enau.
Archwiliwch Eshaiah 53:9