1
Y Salmau 141:3
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
SC
O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth, gadwriaeth ar fy ngenau, Rhag i’m gam-ddwedyd, gosod ddor ar gyfor fy ngwefusau.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 141:3
2
Y Salmau 141:4
Na phwysa ’nghalon at ddrwg beth, ynghyd-bleth â’r annuwiol: Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd, rhag twyll eu gwledd ddaintethol.
Archwiliwch Y Salmau 141:4
3
Y Salmau 141:1-2
O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais, o brysur gelwais arnad: O’r man lle’y bwyf gwrando fy llef, a doed i’r nef hyd attad. Fy ngweddi gar dy fron a ddalw, gan godi dwylaw’n uchel, Yn arogl darth ac aberth hwyr, fel union ddiwyr lefel.
Archwiliwch Y Salmau 141:1-2