1
Y Salmau 103:2
Salmau Cân 1621 (Edmwnd Prys)
SC
Fy enaid n’âd fawl f’Arglwydd nef, na’i ddoniau ef yn angof.
Cymharu
Archwiliwch Y Salmau 103:2
2
Y Salmau 103:3-5
Yr hwn sy’n maddau dy holl ddrwg, yr hwn a’th ddwg o’th lesgedd: Yr hwn a weryd d’oes yn llon, drwy goron a’i drugaredd. Hwn a ddiwalla d’enau di â’i lawn ddaioni pybyr: Drwy adnewyddu yt’ dy nerth, mor brydferth a’r hen eryr.
Archwiliwch Y Salmau 103:3-5
3
Y Salmau 103:1
Fy enaid mawl sanct Duw yr Ion, a chwbl o’m eigion ynof.
Archwiliwch Y Salmau 103:1
4
Y Salmau 103:13
Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwant tâd da iw blant naturiol, Felly cawn serch ein tâd o’r nef, os ofnwn ef yn dduwiol.
Archwiliwch Y Salmau 103:13
5
Y Salmau 103:12
Os pell yw’r dwyrain olau hin oddiwrth orllewin fachlud: Cyn belled ein holl bechod llym, oddiwrthym ef a’i symmud.
Archwiliwch Y Salmau 103:12
6
Y Salmau 103:8
Duw llawn yw o drugaredd: Hwyr yw ei lid, parod ei râd, fal dyna gariad rhyfedd.
Archwiliwch Y Salmau 103:8
7
Y Salmau 103:10-11
Nid yn ol ein drygau y gwnai â ni: ni’n cosbai cymmaint. Cyhyd ac yw’r ffurfafen fawr oddi ar y llawr o uchder, Cymaint i’r rhai a’i hofnant ef, sydd nawdd Duw nef bob amser.
Archwiliwch Y Salmau 103:10-11
8
Y Salmau 103:19
Yno y mae ei orseddfa ef, sef yn y nef tragwyddol: A llywio y mae ef bob peth, drwy ei frenhinieth nefol.
Archwiliwch Y Salmau 103:19