Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Rhufeiniaid 5:8

Caru'n Fawr
5 Diwrnod
Mae Hosanna Wong yn gwybod yn union sut beth yw teimlo'n anweledig, yn annheilwng, ac heb fod wedi dy garu. Yn y cynllun 5 diwrnod hwn, mae hi’n dadbacio naw enw mae Duw yn dy alw di ac yn cynnig anogaeth ymarferol, syml i’th helpu di i ddatgelu celwyddau, gweld dy hun trwy lens Duw, a byw gydag osgo a phwrpas newydd.

Mae Duw yn _________
6 Diwrnod
Pwy yw Duw? Ma egan bob un ohonom ateb gwahanol, ond sut dŷn ni'n gwybod beth sy'n wir? Dydy e ddim o bwys beth yw eich profiad o Dduw, Cristnogion, neu'r eglwys, mae'n amser darganfod Duw am pwy yw e go iawn - real, presennol, ac yn barod i gwrdd â ti'n uniin ble rwyt ti. Cymra'r cam cyntaf yn y Cynllun Beibl 6 niwrnod hwn sy'n cynnwys cyfres o negeseuon gan y Parch Craig Groeschel, Duw yw _______.

Heb benderfynu?
7 Diwrnod
Dal heb wneud penderfyniad am Dduw? Ddim yn siŵr beth ti'n ei gredu? Treulia'r saith niwrnod nesaf yn chwilio'r Beibl a gweld beth fydd duw yn datgelu i ti am ei natur. Dyma dy gyfle i ddarllen y stori dros ti dy hun i weld beth wyt ti'n ei gredu. Mae'r syniad o Dduw yn llawer iawn rhy bwysig i ti heb fod wedi penderfynu.

Ei Aberth Fawr, Ein Comisiwn Mawr
10 Diwrnod
Teithia ffordd wahanol sy'n arwain at y Pasg eleni. Dechreua dy daith gyda chenhadon byd-eang yn y Dwyrain Canol a llywia drwy’r golygfeydd a'r synau a fydd yn dy helpu i brofi'r Pasg o safbwynt hollol newydd. Profa o'r newydd pam y daeth Iesu i'r ddaear hon - i achub eneidiau dynolryw.

Gobaith yn y Tywyllwch
12 Diwrnod
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.

Beth yw Cariad go iawn?
12 Diwrnod
Mae pawb eisiau gwybod beth yw cariad go iawn. Ond ychydig iawn o bobl sy'n edrych ar beth mae'r Beibl yn ei ddweud am gariad. Cariad yw un o themâu canolig y Gair a rhinwedd pwysicaf y bywyd Cristnogol. Mae'r cynllun hwn gan Thistlebend Ministries yn chwilio am ystyr Beiblaidd cariad a sut i garu Duw ac eraill yn well.

Anogaeth y Nadolig gyda Greg Laurie
24 Diwrnod
Paid gadael i brysurdeb a phwysau tymor y gwyliau ddwyn oddi arnat lawenydd a dathlu go iawn o'n Gwaredwr Iesu y Rhagfyr hwn! Derbynia anogaeth ddyddiol drwy ddefosiynau sbesial y Nadolig, y Parch Greg Laurie, wrth iddo fyfyrio ar wir ystyr y cyfnod mwyaf clodfawr o'r flwyddyn. Harvest Ministries gyda Greg Laurie