Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 14:13

Ymarfer y Ffordd
5 Diwrnod
Sut un wyt ti’n meddwl wyt ti? Sut un wyt ti’n meddwl fyddi di yn 70, 80, neu 100 oed, pa fath o berson wyt ti'n ei weld ar y gorwel? A yw'r darlun yn dy feddwl yn dy lenwi â gobaith? Neu ofn? Yn y defosiwn hwn, mae John Mark Comer yn dangos i ni sut y gallwn gael ein ffurfio'n ysbrydol i ddod yn debycach i Iesu o ddydd i ddydd.

Sgyrsiau gyda Duw
12 Diwrnod
Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!

Ufudd-dod
2 Pythefnos
Dywedodd Iesu y byddai’r rhai sy’n ei garu yn gwrando ar ei ddysgeidiaeth. Mae bod yn ufudd yn bwysig i Dduw - does dim gwahaniaeth beth yw’r gost bersonol. Mae rhaglen ddarllen “Ufudd-dod” yn dangos beth sydd gan yr Ysgrythur i’w ddweud am ufudd-dod. Gwelwn sut gall meithrin agwedd meddwl didwyll a thrugarog ddwyn bendithion, rhyddid a mwy i’n bywydau.