Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â 2 Corinthiaid 5:18

Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn Newydd
4 Diwrnod
Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.

Cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud.
5 Diwrnod
Ein tueddiad naturiol i edrych i'r dyfodol, ond ni ddylem byth anghofio y gorffennol. Mae'r cynllun hwn wedi'i lunio ar dy gyfer dros gyfnod o bum niwrnod fel dy fod yn cofio'r cyfan mae Duw wedi'i wneud i'th siapio i'r math o berson yr wyt ti heddiw. Byddi'n derbyn darlleniad a defosiwn byr bob dydd fydd wedi'u creu i'th helpu i gofio'r prif ddigwyddiadau ar dy daith gydag Iesu.

Darganfod dy ffordd nôl at Dduw
5 Diwrnod
Wyt ti'n chwilio am fwy allan o fywyd? Dymuniad mwy sydd mewn gwirionedd yn awchu am ddychwelyd at Dduw — ble bynnag mae dy berthynas â Duw yn awr. Dŷn ni i gyd yn profi cerrig milltir — neu ddeffroadau — wrth i ni ganfod ein ffordd yn ôl at Dduw. Cymer olwg ar y deffroadau hyn a chau'r bwlch sydd rhwng ble rwyt ti ar hyn o bryd a ble hoffet ti fod. Dŷn ni eisiau dod o hyd i Dduw ac mae e eisiau ei ddarganfod gymaint mwy.

Bywyd o Ddyfnder
5 Diwrnod
Fel y mae gweinidog Efrog Newydd, Rich Villodas, yn ei ddiffinio, mae bywyd o ddyfnder yn cynnwys integreiddio, croesdoriad, a chydblethu, gan ddal haenau lluosog ysbrydol at ei gilydd. Mae’r math hwn o fywyd yn ein galw i fod yn bobl sy’n meithrin bywydau gyda Duw mewn gweddi, yn symud tuag at gymod, yn gweithio dros gyfiawnder, yn cael bywydau mewnol iach, ac yn gweld ein cyrff a’n rhywioldeb fel rhoddion i stiwardio.

Newid Bywyd: Cofleidio Hunaniaeth
6 Diwrnod
Gyda chymaint o leisiau yn dweud wrthym ni pwy i fod, does dim syndod ein bos yn stryglo gyda ble mae ein hunaniaeth. Dydy Duw ddim am i ni gael ein diffinio gan ein gyrfa, statws priodasol, na’n camgymeriadau. Mae e eisiau i’w farn e fod yn flaenoriaeth yn ein bywydau. Bydd y cynllun chwe diwrnod hwn yn dy helpu i gymhathu’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy wyt ti a chofleidio dy hunaniaeth yng Nghrist.
