Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Zechariah 4

4
PEN. IV.—
1A’r genad yr hwn oedd yn ymddyddan â mi a ddychwelodd:#a thrachefn ygen.-a’m deffrodd ac a’m deffroodd fel un a ddeffroir o’i gwsg. 2Ac efe a ddywedodd wrthyf, beth a weli di: a mi a ddywedais, edrychais ac wele oleuedydd#goleuantydd, goliantydd. aur i gyd, a’i gawg olew ar ei ben,#arno. uwch iddo. LXX. a’i saith lusern arno;#ar hyny. Vulg. saith bibellau yr un oeddent#saith a saith. Hebr. i’r llusernau y rhai oeddent ar ei ben ef. 3A dwy olewydden oddiarno, un o’r tu deheu i’r cawg olew, ac un ar yr aswy iddo. 4A mi a aethum rhagof i ddywedyd#a mi a ymofynais ac a ddywedais wrth. LXX. a dywedwn. Vulg. wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi, gan ddywedyd: beth yw y rhai hyn fy#Arglwydd. LXX. arglwydd.
5Ac atebodd y genad oedd yn ymddyddan â mi ac a ddywedodd wrthyf, oni wyddost beth yw y rhai yma: a dywedais na wn fy arglwydd.
6Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthyf, gan ddywedyd; Hyn yw gair yr Arglwydd at Zerubabel, gan ddywedyd;
Nid trwy lu#lu neu nerth mawr. LXX. ac nid trwy nerth;
Ond trwy fy ysbryd I,
Medd Arglwydd y lluoedd.
7Pwy wyt ti y mynydd mawr,
Gerbron Zerubabel#y sydd gerbron Zorobabel at ei wastadhau. LXX. y mynydd mawr gerbron (?) gwastadedd. Vulg. beth wyt ti—gerbron—oddi-eithr gwastadedd. Syr. y byddi yn wastadedd:
Ac efe a ddwg#dygaf allan. LXX. allan y maen penaf;#yr etifeddiaeth. LXX. penaf y cyfartaledd a’r drugaredd. Syr.
Gan waeddi nodded, nodded iddo.#cyfartaledd harddwch ei harddwch ef. LXX. efe a gyfartala harddwch wrth ei harddwch ef. Vulg. harddwch, harddwch.
8A bu gair yr Arglwydd ataf gan ddywedyd:
9Dwylaw Zerubabel, a seiliasant y tŷ hwn,
A’i ddwylaw ef a’i gorphenant:
A chei#a chewch wyb. Vulg. wybod;
Mai Arglwydd y lluoedd a’m hanfonodd atoch.
10Canys pwy a ddiystyrodd ddydd pethau bychain;#ddyddiau bychain. LXX. Syr., Vulg.
A llawenychant a gwelant y blwmed#y gareg sythu. gywiru. Syr. yn llaw Zerubabel:
Y saith hyn,#a’r saith hyn a lawenychant. y saith lygaid hyn ydynt y rhai sydd yn edrych ar yr. LXX.
Llygaid yr Arglwydd ydynt hwy,
Yn cyniwair trwy yr holl ddaear.
11A mi a ddywedais wrtho drachefn: pa beth yw y ddwy olewydden hyn; ar ddeheu y goleuedydd ac ar ei aswy. 12Ac aethum rhagof yr ailwaith i lefaru;#gofynais yr ail. LXX. ac a ddywedais wrtho: Beth yw y ddwy gangen olewydd, y rhai sydd wrth#rhwng. Syr. y ddwy bibell aur, y rhai sydd yn tywallt#arllwys. yn y rhai y mae tywalltyddion o’r aur. Vulg. o honynt yr olew aur.#eurlliw. 13Ac efe a ddywedodd wrthyf gan ddywedyd, oni wyddost beth yw y rhai hyn; a dywedais na wn fy arglwydd. 14Ac efe a ddywedodd,
Y rhai hyn yw y ddau olewiedig#feibion yr olew. Hebr. feibion y brasder, neu y ddau freision LXX. y ddau oleuol. oleuyddion. drosglwyddyddion, arweinyddion. Syr.:
Y rhai sydd yn sefyll gerbron Arglwydd yr holl ddaear.

Právě zvoleno:

Zechariah 4: PBJD

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas