Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Zechariah 5

5
PEN. V.—
1A thrachefn y codais fy llygaid ac yr edrychais: ac wele ròl#cryman. LXX. yn ehedeg.#dadblygedig. Dathe. 2Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di: a dywedais, Mi a welaf ròl yn ehedeg; ei hyd yn ugain cufydd, a’i lled yn ddeg cufydd.
3Ac efe a ddywedodd wrthyf;
Hon yw y felldith;
Yr hon sydd yn myned allan dros wyneb yr holl wlad:
Canys pob un a ladrato,
A dorir ymaith#pob lleidr wrth hon a ddielir hyd angeu. LXX. a fernir fel yr ysgrifenwyd yno. Vulg. oddiyma yn ei hol;
A phob un a dyngo;
A dorir ymaith oddiyma yn ei hol.
4Dygais#dygaf. LXX, Syr., Vulg. hi allan medd Arglwydd y lluoedd;
A hi a ddaw i dŷ y lleidr;
Ac i dŷ yr hwn a dyngo trwy fy enw I yn gelwyddog:
A hi a erys yn nghanol ei dŷ ef;
Ac a’i difa ef#ac a ddifa ei goed a’i. Syr. a’i dybena. a’i goed a’i gerig.
5A’r genad a ymddyddanai â mi a aeth allan ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid ac edrych; beth yw hon#hwn. Vulg. gwel hwn sydd yn myned allan. LXX. sydd yn myned allan. 6A mi a ddywedais beth yw hi: ac efe a ddywedodd, hon yw yr ephah#mesur. LXX, Syr. sydd yn myned allan; ac efe a ddywedodd, dyma eu hagwedd#anwiredd. LXX. ac ynddi y mae anwireddau yr holl wlad. Syr. golwg. edrychiad. llygad. Vulg. hwynt yn yr holl wlad. 7Ac wele dalent o blwm wedi ei chodi i fynu; a thyma#ac wele. LXX. Vulg. wraig#un wraig. Hebr. yn eistedd yn nghanol yr ephah. 8Ac efe a ddywedodd, Dyma y Drygioni;#anwiredd. annuwioldeb. yr un ddrygionus. ac a’i taflodd hi i ganol yr ephah: ac a daflodd y pwys#maen. Hebr., LXX. swpws. Vulg. plwm ar ei genau hi. 9A chyfodais fy llygaid ac edrychais ac wele ddwy wragedd yn myned allan, a gwynt yn eu hesgyll; ac iddynt yr oedd esgyll fel esgyll y ciconia:#upupa, cornchwigl. LXX. barcud. Vulg. estrys. Syr. garan. a chodasant yr ephah rhwng y ddaear a’r nefoedd. 10A mi a ddywedais wrth y genad oedd yn ymddyddan â mi: i ba le y mae y rhai hyn yn myned â’r ephah. 11Ac efe a ddywedodd wrthyf, i adeiladu iddi dŷ yn ngwlad Sinaar:#Babylon. LXX. Babel. Syr. i’w sicrhau#i barotoi. LXX. a hi a sicrheir a gwneir iddi. ac y sicrhaer ac y gosoder hi. Vulg. a rhoi iddi orphwys yno ar ei lle.

Právě zvoleno:

Zechariah 5: PBJD

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas