Luc 24
24
1Ar i dy Sabbath nethon‑nhwy orffwys fel ma'r gochimyn in gweud, ond ar ddwarnod cinta'r wsnoth, in ginnar iawn in i bore, dethon‑nhwy at i twm, in cario'r sbeisiys wen‑hwy wedi'u paratoi. 2Ffindon‑nhwy bo'r garreg wedi câl i simud o'r twm, 3ond pan ethon‑nhwy miwn nethon‑nhwy ddim ffindo corff ir Arglwidd Iesu. 4Wen‑nhwy wrthi'n pwslo dros beth we wedi digys, pan ddâth dou ddyn miwn dillag we'n sheino a sefyll ar u pwys nhwy. 5We ofon ofnadw ar i mewnod a gadwon‑nhwy i wmede in drych i'r llawr, ond gwedo'r dinion wrthyn nhwy, “Pam ŷch‑chi'n whilio am ir un sy'n fyw in ganol i rhei sy'n farw? 6Seno‑fe 'ma; mae‑e wedi codi. Cofiwch shwt wedodd‑e wrthoch chi pan wech‑chi'n Galilea o hyd, 7bise Crwt i Dyn in gorffod câl i roi in dwylo dinon pechadurus, câl i groeshoelo a wedyn codi ar i tridydd dydd.” 8Cofion‑nhwy i eire fe, 9a pan ddethon nhwy nôl o'r tŵm wedon‑nhwy popeth wrth ir Un-ar-ddeg a bob un o'r lleill. 10Mair o Magadala, Joanna, a Mair mam Iago wen‑nhyw; a gida'r mewnod erill wedon‑nhwy bopeth wrth ir apostolion. 11We beth wedo'r menwod in nonses ing golwg ir apostolion a nethon‑nhwy ddim mo'u credu nhwy. 12Ond cododd Pedr a rhedeg at i tŵm, pligon‑nhwy lawr a gweld dim byd on i llienie; âth‑e gatre, wedi sinnu at beth we wedi digwydd.
13We dou o'r disgiblion in mynd ar ir un dwarnod i bentre o enw Emmaus, rhyw saith milltir o Jerwsalem; 14a wen‑nhwy'n sharad obitu'r pethe i gyd we wedi digwydd. 15Pan wen‑nhwy'n sharad a'n trafod, dâth Iesu i unan in agos a mynd gida nhwy; 16ond we rhwbeth in u stopo nhwy i nabod e. 17Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Beth yw'r pethe 'ma ŷch‑chi'n dadle amdanyn nhwy wrth gered?” Safon‑nhwy fan 'ny, in ishel u hisbryd. 18Atebo un onyn nhwy o'r enw Cleopas, “Sdim posib taw ti yw'r unig un sy wedi dwâd i Jerwsalem sy ddim in gwbod beth sy wedi digwydd 'ma in i diddie dwetha 'ma?” 19Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Beth sy wedi digwydd?” Gwedon‑nhwy wrtho, “We Iesu o Nasareth in broffwid, in neud a gweud pethe nerthol o flân Duw a'r bobol i gyd, 20on rhoiodd in penffeiradon ni a'n harweinwyr ni fe lan i gâl i hala i’w ladd, a'i groeshoelo e. 21Ond wen‑ni'n gobeitho taw fe fise'r un fidde'n dwâd â Isrel in rhydd. Ond ddim fel 'na fuodd‑i, a ar ben i cwbwl ma tri dwarnod wedi mynd 'ddar 'ny. 22Ond, ma rhei menwod o'n cwmni ni wedi'n sinnu ni. Ethon‑nhwy at i tŵm in ginnar; 23ffeilon‑nhwy ffindo'i gorff e a dethon‑nhwy nôl in gweud i bo nhwy wedi gweld angilion wedodd wrthyn nhwy i fod e'n fyw. 24A âth rhei o'r rhei we 'da ni at i tŵm u hunen a gweld fel we'r menwod wedi gweud, ond nethon‑nhwy ddim mo'i weld e.” 25Gwedodd‑e wrthyn nhwy. “O 'na ddinion twp ŷch‑chi! ‘Na slow ŷch‑chi i gredu bopeth nâth i proffwydi weud! 26Wenodd‑i'n rhaid i'r Meseia ddiodde'r pethe 'ma cyn mynd miwn i’w ogoniant e?” 27A dachreuodd‑e gida Moses a'r proffwydi i gyd in dangos iddyn nhwy mas o'r Isgrithurau i parte we'n sôn amdano'i unan.
28Dethon nhwy'n agos i'r pentre lle wen‑nhwy'n mynd, a nâth‑e roi'r argraff bo fe'n mynd in bellach; 29ond nethon‑nhwy fegian arno i aros gida nhwy, “Mae'n hwyr a'r dydd bitu ddwâd i ben.” So âth‑e miwn i aros gida nhwy. 30Pan wedd‑e wedi ishte lawr cwmrodd e'r bara a gweud i fendith, i dorri e a'i roi e iddyn nhwy. 31Gâs u lliged nhwy u hagor a nethon‑nhwy i nabod e; a âth‑e o'u golwg nhwy. 32Gwedon‑nhwy wrth i gilydd, “Wenon calonne ni'n in llosgi tu-fiwn i ni pan wedd‑e'n sharad gida ni ar i rhewl a'n ecspleino istyr ir Isgrithurau inni?” 33Codon‑nhwy ar unweth a mynd nôl i Jerwsalem; fan 'ny dethon‑nhwy o hyd i'r un-ar-ddeg a'r rhei we wedi dod atyn nhwy. 34Wen‑nhwy'n gweud bo'r Arglwidd wedi codi in wir, a'i fod e wedi dangos i unan i Simon. 35So nâth i ddou o Emmaus adel nhwy wbod beth we wedi digwydd ar ir hewl a shwt wen‑nhwy wedi'i nabod e wrth dorri'r bara.
36Fel wen‑nhwy'n sharad am i pethe hyn dâth‑e i hunan a sefyll in i canol nhwy a gweud, “Heddwch i chi.” 37Gethon‑nhwy sindod mowr a ofon, achos wen‑nhwy'n meddwl bo nhwy'n gweld drichioleth. 38Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pam ŷch‑chi becso gwmint? Pam ŷch‑chi'n cwestjwnnu popeth in ich meddile? 39Drichwch ar in ddwylo a'n drâd i; fi yw e. Teimlwch fi a drych; sdim cig a esgyrn 'da drichioleth fel ŷch‑chi'n gweld sy 'da fi.” 40Wedi 'ddo weud hyn, dangosodd ei i ddwylo a'i drâd iddyn nhwy. 41Ond wenyn‑nhwy'n galler credu weth, so tra wen‑nhwy'n teimlo llawenydd a sindod wedi'u cimisgu 'da i gily gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Wes rhwbeth 'da chi fita 'ma?” 42Rhoion nhwy bishyn o bisgodyn wedi'i gwcan iddo fe. 43Cwmrodd e'r pisgodyn a'i fita fe o'u blân nhwy.
44Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Co beth wedes‑i wrthoch chi pan wen‑i 'da chi, pan wedes‑i fod popeth sy wedi câl i reito amdana i in Cifreth Moses, in i Proffwydi a'r Salme in gorffod dod in wir.” 45Wedyn agorodd‑e u meddilie nhwy i ddiall ir Isgrithure; 46a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Co beth ma'r Isgrithur in gweud: rhaid i'r Meseia ddiodde, a codi wrth i marw ar i tridydd dwarnod, 47a rhaid cihoeddi edifeirwch a maddeuant pechode in i enw e i bob cenedl, in dachre in Jerwslaem. 48Ŷch‑chi'n distion i'r peth 'ma. 49A dw‑i ar hala arnoch chi beth ma'n Dad i wedi addo; ond ma'n rhaid ichi aros in i ddinas nes ichi gâl ich gwisho â nerth o lan fry.”
50Nâth‑e u hebrwng nhwy mas in agos i Bethania, codi'i ddwylo lan a'u bendithio nhwy. 51Pan wedd‑e'n u bendithio nhwy âth‑e bant wrthyn nhwy, a châl i gario lan i'r nefodd. 52Nethon‑-nhwy i addoli e, a mynd nôl i Jerwslaem in llawen iawn; 53a halon-‑nhwy u hamser i gyd in i demel in moli Duw.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies