Ioan 1
1
I Gair in dod in un onon ni
1In i dachre'n deg we'r Gair 'na'n barod. We'r Gair gida Duw, a we'r Gair 'run peth â Duw in gowir‐Duw we'r Gair. 2Wedd-e gida Duw in i dachre. 3Câs popeth 'i neud trw'r Gair, a hebddo gas dim byd 'i neud o gwbl. 4Rhoiodd i Gair fowid in bopeth, a we'i fowid e in ole i ddinion. 5Ma'r gole'n sheino in i tewillwch o hyd a seno'r tewillwch wedi'i ddiffod e.
6Dâth dyn we Duw wedi'i hala. Ioan we'i enw e. 7Wedd e wedi dwâd in unswydd i weud obitu'r gole, fel galle dinion ddwâd i gredu trwyddo fe. 8Ddim Ioan we'r gole 'ny, ond dâth e i weud obitu'r gole. 9We'r gole iawn‐ir un sy'n dwâd â gole i bob dyn‐in i byd in barod. 10Wedd e in i byd gâs i neu drwiddo fe, ond weno'r byd in i nabod e o gwbl. 11Dâth e i'r tŷ we'n getre iddo, ond nâth i dilwith i 'unan ddim 'i dderbyn e.
12Ond i'r rhei we'n folon 'i dderbyn e, i rhei we'n credu indo fe, roiodd e'r hawl iddon nhwy fod in blant i Dduw. 13Seno bod yn blant i Dduw in goligu ich bo chi wedi câl ich geni jwst fel dinion erill, na achos whant dinion, na achos 'na beth ma dinion moyn. Na, man nhwy'n rhei sy wedi câl 'u geni achos beth ma Duw in i neud.
14Dâth i Gair in ddyn a byw fan 'yn 'da ni. Welon-ni shwt un yw Duw indo fe. Welon ni shwt un yw Duw in iawn, a hinny'n gowir fel bysech chi'n dishgwil‐we'r Crwt 'run sbit â'r Tad. Indo fe dâth gras a gwirionedd Duw aton ni.
15Gwedodd Ioan amdano a gweiddi mas, “Co'r un wen i wedi gweud amdano! Ma'r un sy'n dwâd ar in ôl i in bwiscach na fi achos 'i fod e fyw cyn i fi gâl ing ngeni. Mae e wastod wedi bod ginta.”
16Ŷn ni wedi câl gras ar ôl gras mas o gifoth di-ddiwedd e. 17Cas i Gifreth 'i rhoi i ni trw Moses; on trw Iesu Grist dâth cariad wenon ni'n 'i heiddu a gwirionedd aton ni. 18Welo neb sagp ar Dduw ariôd; ond ma'r un sbeshal, ir un sy'n Dduw 'i hunan, ir un sy agosa at i Tad, ma hwnnw wedi dangos i ni shwt un yw e.
Ddim Ioan Fididdiwr yw'r Un Sbeshal
19Pan halo'r Iddewon o Jeriwsalem ffeiradon a gweishon i Demel i holi Ioan pwy wedd e, 20wedodd e wrthon nw: “Ddim fi yw'r Un Sbeshal.” Alle-fe ddim fod wedi gweud hinna'n fwy plaen wrthon nw. 21On holon nhwy wedyn os fe we Eleias. “Ddim fi yw Eleias,” atebodd e. Wedyn holon nhwy, “Ti yw'r Proffwid?” “Nage!” we'i ateb e weth.
22In i diwedd holon nhwy, “Pwy wit ti, 'te? Rhaid i ni gâl ateb, achos ma'r rhei sy wedi'n hala ni in dishgwil ateb. Gwe 'thon ni pwy wit ti! Be s'dat ti weud am di 'unan?”
23Atebo Ioan in iswo geire'r proffwid Eseia, “‘Fi yw'r llaish sy'n gweiddi miwn lle diffeth, “Newch hewl ir Arglwidd in gowir!' ”
24We rhei Ffariseied wedi'u hala 'fyd, 25a holon nhwy iddo fe, “Os nage ti yw'r Meseia, na Eleias, na'r Proffwid, pam wedyn 'te wit ti'n bididdio dinion?” 26Atebo Ioan nhwy, “Dwi'n bididdio dim ond wrth iwso dŵr. On ma rhiwun in sefyll in 'ich canol chi na senoch chi in 'i nabod e; 27fe yw'r un sy'n dwâd ar in ôl i. Sena i'n ddigon da i ddatod i sgidje fe.” 28Digwiddodd i pethe 'ma i gyd in Bethania, ochor arall i afon Iorddonen, in i man lle we Ioan in bididdio.
Iesu yw Wên Duw
29Tranoth, gwelo Ioan Iesu in dwâd ato fe, a gwedodd e, “Drichwch! 'Co Wên Duw, sy'n cwmrid bant pechode'r byd i gyd. 30'Co'r dyn wen i'n sharad amdano fe pan wedes i, ‘Deith dyn ar in ôl sy'n bwisicach 'na fi, achos i fod e fyw cyn i fi gâl ing ngeni.’ 31Wena i in 'unan in 'i nabod e, ond des i in bididdio 'da dŵr fel byse fe'n câl i weld 'da Isrel i gyd. 32Gweles i'r Isbryd in dwâd arno fe fel colomen in dishgyn o'r nefodd. 33Wena i'n 'i nabod e o gwbl, ond wedodd ir un 'nath in hala i i fididdio 'da dŵr in i lle cinta, ‘I dyn weli di'r Isbryd in dishgyn a'n aros arno yw'r un fydd in bididdio 'da'r Isbryd Glân.’ 34Na beth weles i, a sdim dowt taw Crwt Duw yw e.”
Iesu in dewish 'i ddisgiblion cinta
35Tranoth, we Ioan 'na weth in sefyll 'da dou we'n 'i ddilyn e. 36Drichodd e ar Iesu in cered heibo, a gweud, “Drichwch, 'co Wên Duw.” 37Cliwo'r ddou we 'dag e be wedo Ioan a 'co nhwy'n mynd a dilyn Iesu.
38Troiodd Iesu rownd a pan welodd e'r ddou in 'i ddilyn, a holodd e nhwy, “Beth ŷch chi'n whilio amdano?”
Gwedon nhwy wrtho fe, “Ble wit ti'n byw, Rabbi?” (Istyr i gair “Rabbi” yw “Mishtir”.) 39Gwedodd e wrthon nhwy, “Dewch a gewch chi weld.” So ethon nhwy a gweld ble wedd e'n byw, a arhoson nwy 'dag e am rest o'r dydd. Wedd i'n rhyw bedwar ar gloch in i prinhawn.
40Andreas, brawd Seimon Pedr we un o'r ddou nâth gliwed beth wedo Ioan a dachre dilyn Iesu. 41Ffeindodd e i frawd Seimon in glou, a gweu 'tho fe, “Ŷn ni wedi ffeindo'r Un Sbeshal.”
42Dâth Andreas â'i frawd at Iesu. Drichodd Iesu arno a gweud, “Seimon crwt Ioan wit ti; gei di di alw in Ceffas.” (Gall ir enw 'ma gâl 'i gifiethu fel Pedr, a mae e'n goligu “Craig”).
Iesu in dewish Philip a Nathanael
43Tranoth we Iesu ishe mynd i Galilea, a fe wiliodd e am Philip. Gwedo Iesu wrtho, “Dere ar in ôl i.” 44We Philip o Bethseida, o'r un dref lle we Andreas a Pedr in dwâd. 45Ffeindodd Philip Nathanael a gweu 'tho fe, “Ôn ni wedi ffindio'r un wedo Moses amdano in i Gifreth a'r Proffwydi — Iesu, crwt Joseff o Nasareth.” 46Gwedo Nathanael wrtho, “Dim ond rhacs sy'n dwâd o Nasareth, o'ndife?” Gwedo Philip wrtho fe, “Dere i weld.” 47Gwelo Iesu Nathanael in dwâd ato fe, a gwedodd e wrtho, “Drichwch, 'co chi ddyn sy'n haeddu cael ei alw'n Isreiliad, dyn onest.” 48Holo Nathanael i Iesu, “Shwt wit ti'n 'nabod fi?” Atebo Iesu, “Cyn i Philip weiddi arnot ti wet ti'n ishte dan i llwyn ffigs, gweles i ti.” 49Atebo Nathanael, '“Rabbi, ti yw Crwt Duw; ti yw Brenin Isrel.” 50Atebo Iesu, “Wit ti'n credu achos bo fi wedi gweud bo fi wedi gweld ti'n ishte dan i llwyn ffigs? Weli di beth mwy na 'na.” 51A gwedodd e wrtho, “Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, weli di'r nefodd in câl i agor a angilion Duw yn mynd lan a lawr ar Grwt i Dyn.”
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies