Luc 23
23
1Codo'r holl gwmpni a mynd â Iesu o flân Pilat. 2A dachreuon‑nhwy i gihuddo fe, a gweud, “Ffindon‑ni'r boi 'ma in gwyrdroi in cenedl, in u stopo nhwy i dalu trethi i Cesar, a'n gweud taw fe i unan yw'r Meseia, brenin!” 3Holo Pilat e, “Ti yw Brenin ir Iddewon?” Atebodd‑e, “Wit‑ti'n gweud 'ny.” 4Gwedo Pilat wrth i penffeiradon a'r crowde, “Sena‑i'n gweld dim byd in i dyn 'ma i ddwâd â dim in i erbyn e”; 5ond wen‑nhwy'n bendant, a gwedon‑nhwy, “Mae‑e'n cinhirfu, in disgu trw Jwdea i gyd; dachreuodd‑e ing Galilea a nawr mae‑e wedi dwâd fan 'yn.” 6Pan gliwo Pilat hyn gofinodd‑e a we'r dyn in dod o Galilea, 7a pan standodd‑e bo Iesu in dod o dan awdurdod Herod halodd‑e fe at Herod, achos wedd‑e in Jerwslaem ar i pryd. 8Pan welo Herod Iesu, wedd‑e'n falch iawn; wedd‑e wedi bod ishe i weld e am sbel, achos wedd‑e wedi cliwed amdano, a wedd‑e'n gobeitho bise‑fe'n câl gweld ryw sein fise‑fe'n i neud. 9Holodd‑e lot o gwestjwne iddo fe, ond nâth Iesu ddim mo i ateb e o gwbwl. 10Safo'r penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth fan 'ny, in gweud pob math o bethe in i erbyn e. 11Nâth Herod, fel i sowldwrs, i drin e 'da dirmyg a neud sbort ar i ben e; wedyn nâth e roi gwishg sbeshal arno a'i hala fe nôl at Pilat. 12I dwarnod 'ny dâth Herod a Pilat in ffrindie; cyn 'ny wen‑nhwy wedi bod in elinion mowr.
13Galwo Pilat i penffeiradon, ir arweinwyr a'r bobol at ei gily, 14a gweu‑'thyn nhwy, “Dethoch‑chi â'r dyn 'ma o'n flân i fel rhiwun we'n treial troi'r bobol fel bo nhwy ddim in ffiddlon. Dw‑i wedi'i holi e a sena‑i wedi ffindo dim rheswm o gwbwl am i cihuddiade ŷch‑chi'n dwâd in i erbyn e; 15a seno Herod whaith, achos mae‑e wedi'i hala fe nôl aton ni. Seno‑fe wedi neud dim byd sy'n haeddu marwoleth. 16So 'na‑i gâl e wedi'i whipo a'i adel e'n rhydd.” 17Nawr wedd‑e'n gorffod gadel rhiwun in rhydd amser i Cwrdde Mowr. 18Ond nâth i crowd i gyd weiddi, “Lladda'r boi; gad Barabbs in rhydd i ni.” 19We Barabbas wedi câl i dowlu i'r shâl ar gownt gwrthrifel in i ddinas, a achos i fod e wedi lladd. 20Gweiddo Pilat arnyn nhwy shwrne 'to in gweud i fod e ishe gadel Iesu'n rhydd, 21ond wen‑nhwy in gweiddi trw'r amser, “Croeshoela, croeshoela fe!” 22Gwedodd‑e wrthyn nhwy am i tridydd gwaith bod e wedi neud dim wedd‑e'n haeddu gâl i ladd amdano, “Pam, pwy ddrwg ma hwn wedi neud? Sena‑i wedi ffindo dim rheswm o gwbl dros i ladd e. So dw‑i'n mynd i whipo fe a'i adel e'n rhydd.” 23Ond gweiddi'n uwch nethon‑nhwy dile‑fe gâl i groeshoelo, a'u sŵn nhwy nâth drechu. 24Rhoiodd Pilat i ddedfryd taw beth wen‑nhwy moyn ddile gâl i neud. 25Gadodd e'r dyn wen‑nhwy wedi gofyn amdano in rhydd, ir un we wedi câl i dowlu in i shâl am wrthrifel a mwrdwr; ond rhoiodd‑e Iesu lan iddyn nhwy i neud fel wen nhw moyn.
26Fel wen‑nhwy'n i arwen e bant gwmron‑nhwy afel in Simon, dyn o Cyrene, in dwâd o'r wlad, a rhoio'n grwes arno fe, iddo gario hi ar ôl Iesu. 27We crowd mowr o'r bobol in i ddilyn e, a lot o fenwod in bwrw'u briste a'n mwrno o'i achos e. 28Troio Iesu atyn nhwy a gweu‑'thyn nhwy. “Rhocesi Jerwsalem, pediwch llefen o'n achos i, in hitrach llefwch dros ich hunen a dros ich plant, 29achos ma'r amser in dwâd pan fidda‑nhwy'n gweud, ‘Ma'r rhei heb blant, a'r rhei sy'n ffeilu câl plant, a'r bronne sy byth wedi rhoi swc in hapus.’ 30Wedyn wedan‑nhwy wrth i minidde, ‘Cwmpwch arnon ni’, a wrth i brinie, ‘Cwatwch ni’. 31Achos os ma pobol in neud hyn pan ma'r llwyn in wyrdd, beth geith i neud pan fydd e wedi gwywo?”
32Gâs dou ddyn arall, troseddwyr, u harwen mas i gâl u lladd 'run pryd ag e. 33A phan ddethon‑nhwy i'r lle sy'n câl i alw in ‘Penglog’, nethon‑nhwy i groeshoelo fe gida'r troseddwyr, un ar i dde, a'r llall ar i whith. 34Gwedo Iesu, “Dad, madde iddyn nhwyt; senyn‑nhwy'n diall beth man‑nhwy'n i neud.” Nethon‑nhwy rannu'i ddillad e rhynt i gily wrth dowlu deis. 35Safo'r bobol fan 'ny in drych. We'r arweinwyr in neud sbort ar i ben e, a gweud, “Safiodd‑e ddinion erill; os i boi 'ma yw'r Meseia ma Duw wedi'i ddewish, gadwch iddo safio i unan.” 36We'r sowldwrs in neud sbort ar i ben e 'fyd. Detho‑nhwy ato a cinnig gwin sur iddo fe, 37a gweud, “Os Brenin ir Iddewon wit‑ti, wedyn safia di unan.” 38We rhwbeth wedi'i reito uwch i ben e in gweud: “CO BRENIN IR IDDEWON.”
39Dachreuodd un o'r troseddwyr we'n hongian fan 'ny i gablu in i erbyn e, a gweud, “Ti yw'r Meseia, ondife? Safia di unan, a safia ni.” 40Ond atebo'r llall e'n sharp, “Wit‑ti wedi colli pob parch at Dduw? Wit‑ti o dan ir un dedfryd ag e. 41Mae'n iawn i ni, achos ŷn‑ni'n câl beth we'r hyn nethon‑ni'n haeddu, ond seno'r dyn 'ma wedi neud dim byd in rong.” 42A gwedodd‑e, “Iesu, cofia fi pan ddeui‑di miwn i di Deyrnas di.” 43Gwedo Iesu wrtho fe, “Dw‑i'n gweud i gwir wrthot‑ti, heddi biddi‑di 'da fi in Paradwys.”
44Erbyn hyn wedd‑i'n rhiw hanner dydd. Dâth tewillwch dros i wlad nes bod hi'n dri o'r gloch, 45a ffeilodd gole'r houl; a gâs i cyrtens in i demel i rhico lawr i canol. 46Gweiddodd Iesu mas â llaish uchel, “Dad, dw‑i'n rhoi in isbryd miwn i di ddwylo di”; a pan wedd‑e wedi gweud 'na, marwodd‑e. 47Pan welo'r canwriad beth we wedi digwydd rhoiodd‑e ogoniant i Dduw, a gweud, “Sdim dowt, weno'r dyn ‘am wedi neud dim byd in rong.” 48Âth i crowde we wedi dwâd mas i weld beth we'n digwydd gatre, in bwrw'u briste a'n mwrno. 49Ond we bob un we'n i nabod e'n sefyll in bell bant. Fel 'ny 'fyd nâth i mewnod we wedi dwâd 'dag e o Galilea, a watsho beth we'n digwydd.
50We dyn o'r enw Joseff, cinghorydd, dyn da a chifion. 51Weno'r dyn 'ma wedi cefnogi beth wen‑hwy ishe na wedi'i neud. Wedd‑e'n dwâd o Arimathea, tre lle we Iddewon in dwâd, a wedd‑e'n dishgwyl am Deyrnas Dduw. 52Âth‑e at Pilat a gofyn am gorff Iesu. 53Cwrmodd‑e fe lawr, rhoi llien rownd 'ddo, a'i roi e miwn twm miwn ogof lle we neb wedi câl u rhoi o'r blân. 54Dwarnod i Paratoi wedd‑i, a we dy Sabbath in dod in agos. 55Dilino'r menwod we wedi dwâd 'dag e o Galilea, a gwelon‑nhwy'r twm, a shwt we'i gorff e wedi'i roi. 56Ethon‑nhwy nôl paratoi sbeisys a smel neis.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies