Luc 22

22
1We Cwrdde Mowr i Bara Planc, we'n cal u galw yn ‘Pasg’, in dwâd in agos. 2We'r penffeiradon a'r rhei we'n disgu'r Gifreth in treial u gore i ffido ffordd o ladd Iesu; achos we ofon i bobol arnyn nhwy. 3Âth Satan miwn i Jwdas, we'n câl i alw in Iscariot, we'n câl i gownto fel un o'r Douddeg; 4a bant ag e i sharad 'da'r penffeiradon a captens polisis i demel shwt alle fe roi Iesu iddyn nhwy. 5Wen‑nhwy'n falch a addawon‑nhwy roi arian iddo fe. 6Citunodd‑e, a ddachreuodd ddrych am gifle pan alle fe roi Iesu lan iddyn nhwy pan na we crowd obitu'r lle. 7Dâth dwarnod Cwrdde Mowr i Bara Planc, i dwarnod pan ma rhaid aberthu Wen i Pasg. 8Halo Iesu Pedr a Ioan, a gweu‑'thon nhwy, ‘Cerwch i baratoi swper i Pasg i ni fel gallwn ni fita fe.” 9Gwedon‑nhwy wrtho fe, “Ble wit ti moyn inni baratoi'r swper?” 10Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pan ewch‑chi miwn i'r ddinas bydd dyn in cwrdd â chi, in cario stêned o ddŵr. Cerwch ar i ôl e a miwn i'r tŷ lle eith e miwn, 11a gwedwch wrth mishtir i tŷ, ‘Ma'r Athro in gweu‑'tho ti, “Ble ma'r rŵm lle galla‑i fita swper i Pasg gida'n ddisgiblion?”’ 12Ddangosith‑e rŵm mowr i chi lan lofft gid moddion tŷ indo. Paratowch bethe fan 'ny.” 13Ethon‑nhwy a ffindo popeth in gowir fel wedd‑e wedi'i weud wrthyn nhwy a nethon‑nhwy baratoi i Pasg.
14Pan ddâth ir amser, ishteddodd‑e lawr, a'r apostolion 'dag e, 15a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Dw‑i wedi bod ishe'n ofnadw câl bita'r Pasg hwn 'da chi cyni fi ddiodde, 16achos dw‑i'n gweu’‑thoch chi, 'na‑i ddim i fita fe 'to nes bod i bwrpas e wedi'i neud in Teyrnas Dduw.” 17Wedyn gwmrodd e gwpan wrthyn nhwy, rhoi jolch i Dduw a gweud, “Cwmrwch hwn a'i rannu fe rhintoch chi; 18achos dw‑i'n gweu’‑thoch chi, o nawr mas 'na‑i ddim hifed o ffrwyth i llwyn grêps nes bod Teyrnas Dduw wedi dod.” 19Cwmrodd e'r bara, rhoi jolch, i dorri fe a'i roi fe iddyn nhwy, a gweud, “In gorff i yw hwn sy'n câl i roi drostoch chi. Newch hyn i gofio amdana i.” 20In ir un ffordd gwmrodd‑e'r cwpan wedi swper, a gweud, “I cifamod newy in in gorff i yw'r cwpan 'ma; mae‑e'n câl i allwish mas drostoch chi. 21Ond drichwch, ma llaw'r un sy'n mynd in roi fi lan gida'n law i ar ir un ford; 22achos ma Crwt i Dyn in mynd gida beth sy wedi câl i drefnu; ond druan o'r dyn 'na mae‑e'n câl i roi lan drwyddo fe!” 23Dachreuon‑nhwy bledo 'da i gily pwy onyn nhwy fidden neud 'ny.
24Wen‑nhwy'n cwmpo mas 'da i gily pwy o nhwy we'r mwya. 25Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Ma brenhinodd i cenhedlodd in i lodrio drostyn nhwy, a ma'r rhei sy a awdurdod in câl u galw'n ddinion sy’ neud da. 26Ond 'da chi ma pethe'n wahanol; gadwch i'r mwya in ich plith chi fod fel ir ifanca, a'r un sy'n arwen fel ir un sy'n gwasanaethu. 27Pwy yw'r mwy, ir un sy'n ishte wrth i ford neu'r un sy'n gwasanethu arno fe? Nage'r un sy'n ishte wrth i ford? Ond dw‑i wedi dwâd atoch chi fel un sy'n gwasanaethu. 28Chi yw'r rhei sy wedi aros 'da fi trw'r holl bethe caled; 29a'n gowir fel ma'r Tad wedi addo'r Deyrnas i fi, dw‑i'n addo ichi'r hawl i fita a hifed wrth in ford i in ir Deyrnas; 30a chewch‑chi ishte ar orseddi i farnu douddeg llwyth Isrel.
31“Simon, Simon ma Satan wedi minnu'r hawl i'r hilo chi gyd fel llafur; 32ond dw‑i wedi gweddïo drosto ti, Simon, na fydd di ffydd di'n ffeilu. Shwrne iti droi nôl, nertha di frodyr.” 33“Arglwidd”, atebodd‑e, “'da ti dw‑i'n barod i fynd i'r carchar a i farw.” 34Gwedodd‑e, “Dw‑i'n gweu’‑thot ti, Pedr, bydd i ceilog ddim canu heddi nes di fod wadu teirgwaith di fod di in in nabod i.”
35Gwedodd‑e, “Pan hales‑i chi mas heb bwtsh arian, sach, na sandals, we ishe unrhiw beth arnoch chi?” Atebon‑nhwy, “Na we.” 36Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ond nawr gall ir un sy â pwtsh arian i gwrmid e, a sach 'fyd, a gadwch i'r un sy heb gleddyf werthu i glogyn a phernu un. 37Dw‑i'n gweu’‑thoch chi, ma rhaid i'r isgrithur sy'n gweud ‘A gâs‑e i gownto fel un o'r rhei we wedi troseddu” ddwâd in wir inda i, achos ma'r hyn sy o gonsýrn i fi'n dwâd in wir in barod.” 38Gwedon‑nhwy, “Dricha, Arglwidd, co dwy gleddyf.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “'Na ddigon!”
39Gadodd‑e a fel wedd‑e'n arfer neud âth e lan Mini'r Llwyn Oel; a nâth i ddisgiblion i ddilyn e. 40Pan ddethon‑nhwy i'r lle gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Gweddïwch na fiddwch‑chi'n dwâd i'r prawf.” 41Nâth‑e i unan fynd tamed bach in bellach, rhyw dowlad carreg, a'n penlinio gweddïodd‑e, 42“Dad, os wit‑ti'n folon, simuda'r cwpan 'ma wrtha i; ond wedyn wêth ddim beth dw‑i moyn ond beth wit‑ti moyn.” 45Cododd‑e o weddïo, dwâd at i disgiblion a'u ffeindo nhwy cisgu achos gofid. 46Gwedodd‑e, “Pam ŷch‑chi cisgu? Codwch a gweddïwch, fel nag ŷch‑chi'n dwâd i amser prawf.”
47Pan wedd‑e wrthi'n sharad dâth crowd i'r golwg, a'r dyn o enw Jwdas, un o'r Douddeg, we'n u harwen nhwy. Dâth‑e'n agos at Iesu i roi cusan iddo fe. 48Gwedo Iesu wrtho, “Jwdas, a 'da cusan wit‑ti'n rhoi lan Crwt i Dyn?” 49Pan welo'r rhei we'n i ddilyn e beth we'n dwâd wedon‑nhwy, “Arglwidd, newn‑ni fwrw nhwy 'da cleddife?” 50Nâth un onyn nhwy fwrw ceithwas i ffeirad mowr a torri bant i glust dde. 51So wedo Iesu ar unweth, “Stopwch! Dim mwy!” A gwrddodd‑e â clust i dyn a'i wella fe. 52Gwedo Iesu wrth i penffeiradon, a captens polisis i deme a'r heneduried, we wedi dod in i erbyn e, “A ŷch‑chi wedi dwâd mas fe busech‑chi'n dwâd i whilio am leidir 'da cleddife a pastwne? 53Pan wen‑i 'da chi in i demel bob dy nethoch‑chi ddim codi bys in in erbyn i. Ond ich awr chi yw‑i nawr; nawr ma pethe'n dewill.”
54Areston‑nhwy e, i arwen e bant a dod ag e i dŷ'r ffeirad mowr. Dilinodd Pedr e o bell. 55Wedi iddyn nhwy ginnu tân in ganol i clos ishteddon‑nhwy lawr 'da i gily a cwmrodd Pedr le in u canol nhwy. 56Gwelo morwm e'n ishte ing ngole'r tân a dachreuodd‑i ddrych a drych arno fe. Gwedodd‑i, “We'r dyn 'ma 'dag e 'fyd.” 57Ond wadodd Pedr e a gweud wrthi, “Fenwy, sena‑i in i nabod e?” 58Munud neu ddwy in ddewddarach silwo dyn arno a gweud, “Wit‑ti 'fyd yn un onyn nhwy.” On gwedo Pedr, “Nadw, sena‑i in.” 59Wedi rhyw awr co dyn arall in gweud in ddigon pendant, “Sdim dowt o gwbwl bo'r dyn 'ma gidag e, achos mae‑e'n dwâd o Galilea 'fyd.” 60Ond gwadodd Pedr, “Sena‑i'n gwbod beth wit‑ti'n gweud.” A ar unweth, fel wedd‑e'n sharad, ganodd i ceilog. 61Troiodd ir Arglwidd rownd a drych ar Pedr, a cofiodd Pedr gair ir Arglwidd, a shwt wedd‑e wedi gweud, “Cyn i'r ceilog ganu heddi biddi‑di wedi'n wadu i dair gwaith.” 62Âth‑e mas a llefen in wherw.
63We'r dinion we'n i ddal fe in sownd in neud sbort ar i ben e a'n i fwrw fe. 64Rhoion‑nhwy rwbeth dros i wmed a gofyn iddo fe, “Pwy nâth di fwrw di? Dere mlân, proffwyda!” 65Wedon nhwy lot o bethe cablus erill in i erbyn e.
66Pan ddâth henuried i bobol i gyd, in benffeiradon a rhei we'n disgu'r Gifreth in cwrdd 'da i gily, ethon‑nhwy bant ag e i'r Cownsil Mowr, 67in gweud, “Os ti yw'r Meseia, gwed wrthon ni.” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Os weda‑i, newch‑chi ddim in gredu i 'ta beth; 68a os 'na‑i ofyn cwestjwn ichi, newch‑chi ddim in ateb i. 69O nawr mlân bydd Crwt i Dyn in ishte ar law dde nerth Duw.” 70Gwedon‑nhwy i gyd, “Wedyn 'te, Crwt Duw wit‑ti?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Chi sy'n gweud bo fi.” 71Gwedon‑nhwy, “Pam bod ishe unrhiw distioleth arnon ni? Ŷn‑ni in hunen wedi cliwed e o'i ben i unan.”

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Luc 22: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ