Luc 21
21
1Drichodd e lan a gweld i bobol abal in rhoi i casglad i demel. 2Gwelodd‑e widw in rhoi ceinog neu ddwy, a gwedodd‑e, 3“Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi, ma'r widw dlawd 'ma wedi rhoi mwy na'r lleill i gyd, 4achos nâth rhein i gyd roi mas o'r digonedd we 'da nhwy, ond ma'r fenwy 'ma wedi rhoi mas o'i hishe bobeth we 'da i i fyw arno.” 5We rhei onyn nhwy in sharad am i demel a am i cerrig pert a'r trimins drud we arni. 6Gwedodd‑e, “Marcwch‑chi'r pethe 'na ŷch‑chi'n edrych arnyn nhwy, achos deith amser pan na fydd carreg ar ben carreg wedi'u gadel 'ma na fydd in câl u distrwyo.”
7Gofinnon‑nhwy iddo, “Athro, pryd fydd i pethe 'ma'n digwydd? A beth fydd in sein i ni bo'r pethe 'ma'n mynd i ddigwydd?” 8Gwedodd‑e, “Watschwch na fiddwch‑chi'n câl i'ch arwen ffordd rong. Achos deith pŵer in in enw i, a gweud, ‘Fi yw e’, a ‘Ma'r amser wedi dod in agos.’ Peidwch mynd ar u hôl nhwy. 9Ond pan ŷch‑chi'n cliwed am rifelodd a reiats peidwch câl ofon. Rhaid i'r pethe 'ma ddigwydd ginta, ond ddeith i diwedd ddim ar unweth.” 10Wedyn wedodd‑e wrthyn nhwy, “Bydd cenedl in codi in erbyn cenedl arall, teyrnas in erbyn teyrnas; 11bydd deargrnfeydd mor, a newyn a salwch mewn lot o lefydd; bydd 'na bethe dychrynllyd a seins in ir awyr. 12Ond cyn i pethe 'ma i gyd bydd dinion in cwmrid gafel indoch chi a'ch erlid chi; biddan‑nhwy'n dwâd â chi o flân brenhinodd a rheolwyr o achos in enw i. 13Bydd hin in shans ichi sharad amdana i. 14Pediwch trefnu beth ŷch‑chi'n mynd i weud o'ch ochor ich unan cyn 'ny, 15achos fe roia‑i'r geire ichi, a doethineb na all neb o'r rhei sy'n ich erbyn chi sefyll na sharad in u herbyn. 16Bydd ich mam a'ch tad, ich brodyr, perthnase a ffrindie in ich rhoi chi lan, a biddan‑nhwy lladd rhei onoch chi. 17Bydd neb in galler ich haru chi achos ich bo chi'n ffiddlon i fi. 18Ond geith ddim gwelltyn ar ich ben chi i golli. 19Enillwch chi ich gwir hunen wrth stico hi mas i'r diwedd.
20“Pan welwch‑chi'r biddinôdd rownd i Jerwsalem, wedyn biddwch‑chi'n gwbod bo'r amser wedi dwâd iddi gâl i distrywo'n fflat. 21Dile'r rhei in Jwdea jengid i'r minidde; dile'r rhei in i ddinas adel, a dile'r rhei o'r wlad ddim mynd miwn iddi, 22achos dwarnode cosb yw rhein; man‑nhwy wedi dwâd fel bo'r isgrithure i gyd in galler dwâd in wir. 23Druens o'r menwod ir amser 'ny sy'n dishgwyl babis neu'n rhoi swc! Achos bydd gofid mowr trw'r wlad i gyd a dial ar i bobol. 24Bidan‑nhwy'n cwmpo wrth fin i cleddyf, cewn‑nhwy u cwmrid in gaeth i'r holl genhedlodd, a geith Jerwsalem i damshel o dan drade'r rhei nad ŷn‑nhwy'n Iddewon, nes bod amser i rhei nad ŷn‑nhwy'n Iddewon wedi câl i giflawni.
25Bydd seina in ir houl, i llouad a'r sêr, a ar i ddeiar cenhedlodd wedi mynd i'r diwedd achos sŵn ofnadw i môr a'r tonne; 26bydd calonne dinion in stopo wrth i nhwy ddisghwil miwn ofon am beth sy'n dwâd dros i byd i gyd, achos geith holl bwere'r nefodd shigwdad. 27Wedyn welan‑nhwy Grwt i Dyn in dod miwn cwmwl gida nerth a gogoniant mowr. 28Pan ddachreuith i pethe 'ma, drichwch lan, codwch ich penne, achos ma'r amser i biddwch chi'n câl dwâd in rhydd in agosáu.”
29Wedodd‑e ddameg wrthyn nhwy: “Drichwch ar i llwyn ffigs a'r llwyni i gyd. 30Mor glou â man‑nhwy wedi rhoi dail ŷch‑chi'n gweld a'n gwbod, heb i neb weu‑'thoch chi, bo'r haf in agos. 31Ir un peth in gowir, pan ŷch‑chi'n gweld i pethe ma'n digwydd, byddwch‑chi'n gwbod bod Teyrnas Dduw in agos. 32Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi, eith i genhedleth 'ma ddim heibo, nes iddo gyd ddigwydd. 33Eith nefodd a deiar heibo, ond neith in eire i ddim mynd heibo o gwbl.
34“Watswch bo'ch meddilie chi ddim in mynd in ddwl trw danco, meddwi a gofidie'r bowid hwn. Watshwch chi bo'r Dwarnod hwnnw ddim in dod arnoch chi whap, 35achos bydd‑e fel magal ar bob un sy ar wmed i ddeiar i gyd. 36Arhoswch ar ddihun, a gweddïwch amser bob creisis ichi gâl nerth i jengid wrth i pethe sy'n mynd i ddigwydd, a sefyll o flân Crwt i Dyn.” 37Trw'r dydd buodd‑e'n disgu in i demel, a 'da'r nos wedd‑e'n mynd mas a aros ar i mini we'n câl i alwn Mini'r Llwyni Oel. 38We'r bobol i gyd in codi'n ginnar fel bo nhwy'n galler dwâd ato fe in i demel a'i gliwed e.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies