Luc 17

17
1Gwedodd‑e wrth i ddisgiblion, “Sdim dowt bydd pethe'n digwydd fydd in hala dinion i gwmpo bant, ond druan o'r dyn bydd i pethe 'ma in digwydd trwyddo fe! 2Bidde'n well iddo fe os bise nhwy wedi clwmu carreg felin am i wddwg a'i dowlu e i'r môr, na bo fe wedi hala un o'r rhei bach 'ma gwmpo bant. 3Watshwch mas! Os neith di frawd di bechu, rho stwr iddo, ac os neith‑e ddifrau, madde iddo fe. 4Os neith‑e bechu in di erbyn di saith gwaith i dwarnod, a dwâd nôl atot ti saith gwaith a gweud bo fe'n sorri, rhaid iti fadde iddo fe.”
5Gwedo'r apostolion wrth i'r Arglwidd, “Rho mwy o ffydd i ni.” 6Gwedo'r Arglwidd, “Os bise ffydd 'da chi fel hadyn mwstard, gallech‑chi weud wrth i llwyn mwlberri 'ma, ‘Cod lan a planna di unan in môr’, a bise fe'n neud 'ny.
7“Cwmrwch bo 'da chi geithwas sy'n arddu neu'n drych ar ôl i defed. A fisech‑chi'n gweu‑'tho fe pan ddaw e miwn o'r perci, ‘Dere mlân ar unweth i ishte wrth i ford’? 8Nage'r hyn nethech‑chi weud miwn gwirionedd fise, ‘Paratoa'n swper ifi a 'na di unan in barod i dendo arna i wrth ifi fita a hifed; wedyn galli‑di fita a hifed di unan’? 9Odych‑chi jolch i'r ceithwas am neud beth gâs e ordors i neud? 10In ir un ffordd in gowir, ddilech chi 'fyd, wedi ichi neud popeth sy 'da chi neud, weud, ‘Caethweishon ŷn‑ni; sdim ishe jolch i ni. Ŷn‑ni wedi neud beth we 'da ni neud.’”
11Ar i ffordd i Jerwsalem wedd‑e'n paso rhynt Samaria a Galilea. 12Wrth iddo fynd miwn i bentref dâth deg dyn â crwen tost i gwrdd ag e. Stopon‑nhwy tamed bach bant 13a gweiddi, “Iesu, Mishtir, ca dreunu arnon ni.” 14Pan welodd‑e nhwy gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Cewch a dangos ich hunen i'r ffeiradon.” Wrth iddyn nhwy fynd gethon‑nhwy u neud in lân. 15Wedi gweld i fod e wedi câl i neud in lân droiodd un onyn nhwy rownd a dod nôl a jolch i Dduw miwn llaish uchel; 16a cwmpodd‑e ar wmed wrth drâd Iesu a jolch iddo fe. Samariad wedd‑e! 17Gwedo Iesu, “Gâth ddim o deg u neud in lân? Ble ma'r naw? 18A'r dyn dierth 'ma yw'r unig un gallech‑chi gâl i ddwâd nôl a rhoi gogoniant i Dduw?” 19A gwedodd‑e wrtho fe, “Cod lan a cer. Ma di ffydd di wedi di wella di.”
20Pan ofino'r Ffariseied iddo fe pryd we Teyrnas Dduw in dod, atebodd‑e nhwy. “Seno Teyrnas Dduw in dod amser ŷch‑chi'n watsho am i peth. 21Bydd neb in gweud, ‘Drichwch, ‘co hi!’ neu ‘Man ‘co mae‑i!’ I weud i gwir, ma Teyrnas Dduw in ich canol chi.”
22Gwedodd‑e wrth i ddisgiblion, “Deith amser pan fiddwch‑chi'n hiraethu am weld un o ddwarnode Crwt i Dyn, ond newch‑chi ddim i weld e. 23Biddan‑nhwy'n gweut‑'thoch chi, ‘Drichwch, co fe’, neu ‘Dirchwch, tima fe.’ 24Peidwch mynd, peidwch rhedeg ar u hôl nhwy; achos pan ma‑i'n bwrw gole ma'r awyr i gyd in ole o un gorwel i'r llall, a'n gowir run peth fydd hi ar ddwarnod Crwt i Dyn. 25Ond in ginta'n deg rhaid iddo ddiodde lot a châl i wrthod 'da'r genhedlaeth 'ma. 26Fel wedd‑i'n amser Noa, fel 'na bydd‑i in amser Crwt i Dyn: 27wen‑nhwy'n bita, in hifed, in priodi, in câl u rhoi i briodi, nes i dwarnod pan âth Noa miwn i'r arch a dâth i llifogydd a'u distrywo nhwy i gyd. 28In ir un ffordd, bydd‑i fel wedd‑i'n amser Lot: dinion in bita a hifed, pernu a gwerthu, plannu a bildo; 29ond ar i dwarnod pan âth Lot mas o Sodom, nâth‑i fwrw tân a swlffwr o'r nefodd a'u distrywo nhwy i gyd. 30Bydd‑i fel 'na ar i dwarnod pan bydd Crwt i Dyn in câl i ddangos. 31I dwarnod 'ny os bydd dyn ar ben to i dŷ a'i bethe fe in i tŷ, rhaid 'ddo fe beido mynd lawr i’w mhoyn nhwy, ir un ffordd in gowir ddile'r dyn sy in i parc ddim troi nôl o gwbwl. 32Cofiwch am wraig Lot. 33Os yw dyn in treial cadw i fowid bydd‑e'n i golli, ond os gollith dyn i fowid fe gadwith‑e fe. 34Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, ar i nosweth 'ny, byd dou ddyn in i gwely; ceith un i gwmrid, a geith i llall i adel. 35Bydd dwy fenyw in malu 'da i gily; ceith un i chwmrid, ceith i llall i gadel. 36Bydd dou ddyn miwn parc; ceith un i gwrmid, ceith i llall i adel.” 37Atebon‑nhwy e, “Ble, Arglwidd?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Man lle ma'r corff, 'na lle ma'r adar slifaethus in casglu.”

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Luc 17: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ