Luc 16
16
1Gwedo Iesu wrth i ddisgiblion, “We din cifoethog we'n talu dyn i ddrich ar ôl i eiddo. Ond gâth i dyn cifoethog gliwed fod i dyn in wasto'i arian. 2So alwodd‑e arno a gweud, ‘Beth yw hyn dw‑i'n cliwed amdano ti? Rho wbod i fid am bopeth wit‑ti wedi hala. Seno‑ti galler drych ar ôl in fusnes am funud in fwy.’ 3Gwedo'r dyn wrtho'i hunan, ‘Beth 'na‑i? Dw‑i'n câl i sac. A sena‑i'n ddigon cryf i neud gwaith braich a ma goromod o gwiddil arna i fynd i fegian. 4Dw‑i'n gwbod beth 'na‑i, so fel pan dw‑i'n colli in job bydd dinion in croesawu fi miwn i’w cartrefi.’ 5Galwodd‑e ar bob un we arnyn nhwy arian i’w fos e, a gwedodd‑e wrth i cinta, ‘Faint sy arno ti in fishtir i?’ 6Gwedodd‑e, ‘Saith cant galwn o oel.’ Gwedo'r dyn wrtho, ‘Cwmra'r bil; ishte lawr in gloi a reito tri-chant-a hanner.” 7Wedyn wedodd‑e wrth un arall, A faint sy arnot ti, 'te?’ Gwedodd e, “Wyth‑mil galwn o lafur.’ Gwedodd‑e wrtho, ‘Cwmra di fil a reita whech-mil.’ 8Nâth i mishtir ganmol i dyn anonest am fod mor gall; achos wrth wneud â'i short i unan mae dinion i byd in fwy call na dinion senon nhwy o'r byd.
9“A dw‑i'n gweud wrthoch ch, iwswch ei cifoth ar i ddeiar i neud ffrindie i chi'ch unan, fel pan fiddwch‑chi'n i adel ar ôl bydd croeso ichi in ich cartre tragwyddol. 10Ma unrhiw un gallwch‑chi drysto 'da rhwbeth bach in rhiwun gallwch drysto in rhwbeth mowr 'fyd, a ma unrhiw un ŷch‑chi'n ffeilu u trysto nhw 'da rhwbeth bach in rhei gallwch‑chi ddim o u trysto nhw 'da lot whaith. 11Os nad ŷch‑chi wedi bod in rhei gallwch‑chi'u trysto nhwy wrth iwso cifoth anonest i byd 'ma, pwy neith ich trysto chi 'da cifoth iawn? 12A os nad ŷch‑chi wedi bod in rhei gallwch‑chi drysto 'da pethe ma dinion erill pia, pwy neith roi pethe ich hunen ichi? 13Gall ddim un fod in geithwas i ddou fishtir; achos biddwch‑chi'n ffeilu haru un a'n caru'r llall, neu'n lico un a'n casáu'r llall. Gallwch‑chi ddim gwasneithu Duw a Cifoth.”
14We'r Ffariseied, sy'n dwlu ar arian, in grondo ar hyn i gyd a'n i watwar e. 15Gwedodd‑e wrthyn nhwy. “Falle bo chi'n galler twyllo dinion ond ma Duw in gwbod ich calon chi; ma beth ma dinion in meddwl lot fowr ono fe in ffiedd ing ngolwg Duw.
16“Hys amser Ioan we'r Gifreth a'r Proffwydi ar gâl. Ddar 'ny ma'r Newydd Da am Deyrnas Dduw in câl i brigethu, a ma pob un in treial fforso'u ffordd miwn. 17Ma‑i'n rhwyddach i nefodd a deiar fynd heibo na yw‑i i un parth o un llithiren o'r Gifreth gâl i gadel mas. 18Os ma dyn in diforso'i wraig a'n priodi un arall, mae‑e'n godinebu; a os yw dyn in priodi gwraig sy wedi câl difors o'i gŵr hi, mae‑e'n godinebu.
19“We dyn abal i gâl. We'i ddillad e'n biws a wedi'u neud mas o lien main, a wedd‑e'n enjoio i unan miwn digonedd bob dy. 20Wrth iet i dŷ we dyn llwm o'r enw Lasarus in gorwe, a we cwte drost o i gyd, 21a wedd‑e bitu dorri i fola ishe stopo'i lwgu wrth fita beth we'n cwmpo o ford i dyn abal; in wâth byth, bidde cŵn in dwâd a'n lapo cwte'r dyn. 22Wedyn marwo'r dyn llwm a gâs‑e i gario da'r angilion i fod 'da Abraham. Marwo'r dyn abal 'fyd, a châl i gladdu. 23In Hades, lle wedd‑e'n jodde, drichodd‑e lan a gweld Abraham in bell bant gida Lasarus ar i ochor dde. 24Gweiddodd‑e arno, ‘Dad Abraham, dangosa dreni wrtha i a hal Lasarus i ddipo blân i fys miwn dŵr i oeri tamed ar in dafod i, achos dw‑i miwn pwen ofnadw in i fflam fan 'yn.’ 25Ond gwedo Abraham, ‘Grwt, cofia di bo ti wedi câl di bethe da in di fowid, fel we Lasarus wedi câl pethe gwâl; ond nawr mae‑e in câl cisur fan 'yn, a ti sy'n jodde. 26A 'ta beth ma 'na ddwnshwn mowr rhinton ni a ti, fel bo'r rhei sy am fynd o fan 'yn i fan ‘co ddim in galler neud, a fel gall neb groeshi o fan ‘co i fan 'yn aton ni.’ 27Gwedodd‑e ‘Dw‑i'n begian arnot ti wedyn, dad, i hala fe i gatre'n dad, 28achos ma pump brawd 'da fi fan 'ny, fel bo fe'n galler rhibuddio nhwy fel bo nhwy ddim in dod i'r lle 'ma sy'n llawn pwen.’ 29Gwedo Abraham, ‘Ma 'da nhwy Moses a'r Proffwydi; gad iddyn nhwy rondo arnyn nhwy.’ 30Ond wedodd‑e, ‘Na neith‑e ddim byd iddyn nhwy, dad Abraham; ond os bise rhiwun in dod nôl o farw biddan nhwy'n difaru.’ 31Atebo Abraham, ‘Os na newn nhwy rondo ar Moses a'r Proffwydi, sdim perswadio arnyn nhwy, hyd‑'nôd os bise rhiwun in codi o farw.’”
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies