Luc 18

18
1Gwedodd-e ddameg wrthyn nhwy i ddangos bod ishe gweddïo trw'r amser heb golli gobeth. 2Gwedodd‑e, “We barnwr miwn rhyw dre na we ofon Duw arno fe a we ddim parch 'dag e at ddyn whaith. 3We gidw in i'r un dre, a wedd‑i'n mynd ato fe o hyd in gweud, ‘Barna di o'n blaid i in erbyn ing ngwrthwynebwyr.’ 4Am sbel ballodd‑e, ond wedyn wedodd‑e wrth i unan, ‘Er bo ddim ofon Duw arna i na dim parch i ddyn, 5dw‑i'n folon barnu ar ochor i widw 'ma achos i bod hi wedi plago gwmint arna i. In i diwedd neith‑i in droilo i mas wrth ddod i'n weld i mor amal.’” 6Gwedo'r Arglwidd, “Grondwch ar beth ma'r barnwr anghifion in gweud. 7Senoch chi'n meddwl neith Duw ddim gweld bo cifiawnder in câl i neud i'r rhei mae‑e wedi'i ddewish a sy'n gweiddi arno fe nos a dydd? Ody‑e'n mynd i oedi wrth u helpu nhwy? 8Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, neith‑e weld cifawnder in câl i neud heb oedi. Ond wedyn weth, pan ddeith Crwt i Dyn a ffeindith‑e ffydd ar i ddeiar?”
9Wedodd‑e'r ddameg 'ma wrth rei we'n siŵr o'u cifiownder u hunen a we'n edrych lawr u trwyne ar bob un arall: 10“Âth dou ddyn lan i'r demel i weddïo, we un in Ffariseied a'r llall in gasglwr trethi. 11Safodd i Ffariseiad a gweddïo fel 'yn wrtho'i unan, ‘O Dduw, dw‑i'n jolch i ti bo fi ddim fel dinion erill, sena‑i'n twyllo, na'n torri'r gifreth, in godinebu, na ddim byd in debyg i'r casglwr trethi 'ma. 12Dw‑i'n mynd heb fwyd ddwywaith ir wsnoth fel part o'n grefydd, dw‑i'n rhoi degfed rhan o bobeth dw‑i'n câl.’ 13On sefyll in bell bant nâth i casglwr-trethi. Wedd‑e ddim in folon drych lan i'r nefodd, ond wedd‑e'n bwrw'i jest, a gweud, ‘O Dduw, bydd in drugarog wrtha i, pechadur fel wdw‑i.’ 14Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, âth i dyn 'ma lawr gatre wedi câl i neud in iawn 'da Duw, in hitrach na'r llall; achos bydd pob un sy'n codi'u hunen in uchel in câl u tinnu lawr a'u ostwng, ond pwy binnag sy'n gostwng u hunen cewn nhwy u codi lan in uchel.”
15We dinion in dwâd a'u babis ato fe hyd‑'nôd, fel galle‑fe gwrdd â nhwy; ond pan welo'r disgiblion hyn sharadon‑nhwy'n sharp'da'r rhei we'n dwâd â nhwy. 16Galwo Iesu arnyn nhwy i ddod â'r babis, a gwedodd‑e, “Gadwch i'r plant ddwâd ata i. Peidwch u stopo nhwy, achos ma Teyrnas Dduw in eiddo i rei fel hyn. 17Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi, neith neb sy ddim in derbyn Teyrnas Dduw fel ma plentyn in neud ddim mynd miwn iddi.”
18Gofinno un o'r dinion pwysica iddo, “Athro Da, beth sy rhaid ifi neud i gâl bowid am byth?” 19Gwedo Iesu wrtho fe, ‘Pam wit‑ti'n ing ngalw i in dda? Sneb in dda o Duw i unan. 20Wit‑ti'n gwbod i gorchminion: ‘Paid â godinebu, Paid â lladd neb, Paid dwyn, Paid gweud celwy in erbyn dinion, Rho anrhidedd i di dad a di fam.’” 21Atebo'r dyn, “Dw‑i wedi cadw'r pethe 'ma i gyd 'ddar wen‑i'n ddyn ifanc.” 22Pan gliwo Iesu hyn gwedodd‑e wrtho fe, “Ma ishe un peth arall arnot ti; gwertha popeth sy 'da ti a rho'r arian i'r dinion llwm, a gei‑di drisor in i nefodd; wedyn dere a'n ddilyn i.” 23Ond pan gliwodd‑e hyn halodd‑e ofid mowr arno, achos wedd‑e'n gifoethog iawn. 24Gwelo Iesu faint mor ofidus wedd‑e a gwedodd‑e, “'Na galed yw‑i ar i rhei sy â lot o arian 'da nhwy i fynd miwn i Deyrnas Dduw! 25Mae'n rhwyddach i gamel fynd trwy groi nedwy na yw‑i i ddyn cifoethog fynd miwn i Deyrnas Dduw.” 26Gwedo'r rhei gliwo hyn, “Wedyn 'te, pwy in i byd geith i safio?” 27Gwedodd‑e, “Ma pethe sy'n amhosib 'da dinion in bosib 'da Duw.” 28-29Gwedo Pedr, “Beth amdanon ni? Ŷn‑ni wedi gadel in cartrefi, gwraig, brodyr, tad a mam neu blant, ar gownt Teyrnas Dduw, 30pwy na geith u talu nôl drosto a drosto in i bowid hwn, a in i'r ôs i ddwâd in câl bowid am byth.”
31Cwmrodd‑e'r Douddeg i un ochor a gweu‑'thon nhwy, “Grondwch, ŷn‑ni'n mynd lan i Jerwsalem, a bydd popeth sy wedi câl i reito am Grwt i Dyn in dod in wir, 32achos bydd e'n câl i roi in dwylo rhei sy ddim in Iddewon, ceith‑e i watwar, i insylto a bydd dinion in powri arno fe; 33biddan‑nhwy in i whipo fe a'i ladd e, a ar i tridydd dydd bydd e'n codi.” Ond ddeallon nhwy ddim o beth wedd‑e'n i weud; 34wenon nhwy'n gwbod beth we istyr beth wedd‑e'n gweud a wenyn‑nhwy'n stando beth we'n câl i weud.
35Wrth i Iesu ddwâd in agos i Jericho, we dyn dall in ishte ar ochor ir hewl in begian. 36Pan gliwodd‑e'r crowde in mynd heibo holodd‑e beth we'n digwydd. 37Gwedon‑nhwy wrtho fod Iesu o Nasareth in paso heibo. 38Gweiddodd‑e'n uchel, “Iesu, Crwt Dafydd, ca dreni arna i.” 39Gwedo'r rhei we'n cered o'i flân e wrtho fe i fod in dawel in ddigon cas, ond gweiddi'n uchelach nâth i dyn, “Iesu, Crwt Dafydd, ca dreni arna i.” 40Safo Iesu in llony a rhoi ordors bo nhwy i ddwâd â'r dyn atyn nhwy. Pan ddâth‑e'n agos holodd Iesu e, 41“Beth wit‑ti moyn ifi neud i ti?” Gwedodd‑e, “Mishtir, gad fi weld 'to.” 42Gwedo Iesu wrtho, “Fel 'na amdani 'te. Ma di ffydd wedi di wella di.” 43Gâs‑e i olwg nôl ar unweth, a dilinodd‑e Iesu, in rhoi gogoniant i Dduw. A nâth i bobl i gyd roi mawl i Dduw pan welon‑nhwy'r peth.

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Luc 18: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ