Luc 12

12
1Obitu'r amser 'ma, pan we shwt filôdd o bobl wedi dod at i gily a'n damshel ar ben i gily, sharadodd e gida'i ddisgiblion a gweud, “Watshwch‑chi am ferem i Ffariseied, sy'n ragrith. 2Sdim byd wedi câl i gyfro na fydd in câl i ddangos, sdim byd wedi'i gwato na fydd in câl i wbod; 3achos bydd beth ŷch‑chi wedi'i weud in i tewillwch in câl i gliwed in i gole, a bydd beth sy wedi câl i sibrwd tu fiwn in gâl i weiddi o dope'r tai. 4“Dw‑i'n gweu‑'tho chi sy'n ffrindie i fi, peidwch câl ofon i rhei sy'n lladd i corff a wedyn sdim byd mwy gallan‑nhwy neud. 5Dangosa‑i chi pwy ddilech‑chi gâl ofon: ofnwch Dduw, sy, ar ôl ichi farw, â'r nerth i'ch towlu chi i miwn i uffern. Ie'n wir, dw‑i'n gweu'tho chi, ofnwch e. 6Senyn‑nhwy'n gwerthu pump aderyn to am nesa peth i ddim? Ond wedyn werth in presenoldeb Duw sdim un aderyn to in câl i anghofio. 7Ma hyd‑'nôd gwallt ich pen chi wedi câl u cownto. Peidwch câl ofon; ŷch‑chi werth lot mwy na aderyn to.
8“Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, bydd bob un sy'n folon in gidnabod i o flân dinion bydd Crwt i Dyn in u cidnabod nhwy o flân angilion Duw. 9Bydd unrhyw un sy'n gweud bo nhwy ddim in in nabod i o flân dinion wedyn bidda nhwy ddim in câl u cidnbod o flân angilion Duw. 10Geith bob un sy'n gweud gair in erbyn Crwt i Dyn u madde, ond cheith neb sy'n cablu'r Isbryd Glân u madde. 11Pan ddewn‑nhwy â chi o flân i sinagog a o flân rheolwyr a o flân awdurdode, peidwch becson shwt neu beth ŷch‑chi'n mynd i ateb i amddiffyn ich hunen, neu beth ŷch‑chi'n mynd i weud, 12achos bydd ir Isbryd Glân in ich disgu chi beth sy raid ichi weud.”
13Gwedodd dyn o'r crowd wrtho, “Mishtir, gwed wrth in frawd i i rannu'r etifeddieth gida fi.” 14Gwedodd‑e wrtho, “In ffrind i, pwy nâth in neud i i lordo hi drostoch chi i farnu a rhannu?” 15Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Watshwch mas, biddwch in ofalus, achos seno pia lot o beth in neud bowid dyn.” 16Gwedodd‑e ddameg wrthyn nhwy, “We dyn cifoethog i gâl a we'i dir e'n dir da in rhoi crope sbechal. 17Wedd‑e'n holi i unan, ‘Beth 'na‑i? Sdim digon o le 'da fi roi in geneia.’ 18Gwedodd‑e, ‘Co beth 'na‑i: tinna‑i'n sguborie lawr a codi rhei mwy o seiz, a na lle 'na‑i gadw in llafur a'n bethe i gyd; 19a weda‑i wrth in unan, ‘Ma digon o beth 'da ti in i storws i gadw ti am flinidde. Cwmer hwe, bita, hifa, a enjoia di unan.’ 20Ond gwedo Duw wrtho fe, “Twpsyn, heno ceith di fowid di i ofyn amdano. Pwy fydd in câl i pethe wit‑ti wedi wedi paratoi?’ 21Co beth sy'n digwydd i ddyn sy'n storo pethe lan ar gownt i unan ond sy â dim 'dag e pan mae'n dod at Dduw.”
22Gwedodd‑e wrth i disgiblion, “Co pam dw‑i'n gweu‑'tho chi i beido becso am bethe fel bwyd i gadw chi'n fyw neu ddilad ichi wishgo. 23Ma mwy i fowid na bwyd, a ma mwy i'r corff na dillad. 24Meddilwch am i brain: senyn nhwy in hou na'n cwên; sdim storws na sgubo 'da nhwy; ond ma Duw in u bwydo nhwy. Ŷch‑chi werth lot mwy na'r adar! 25Pwy onoch chi gall neud i unan fyw in hirach wrth fecso? 26Os nad ŷch‑chi'n galler neud i peth lleia, pam ŷch‑chi'n becso shwt gwmint am i pethe erill? 27Meddilwch shwt ma'r blodyn lili in iddu: senyn‑nhwy'n gweitho, senyn‑nhwy'n niddu, ond dw‑i'n gweu‑'thoch chi weno Solomon in i ogoniant i gyd wedi'i wishgo fel un o rhein. 28Os yw Duw in rhoi dillad fel hyn i blans, sy'n tiddu in perci un dwarnod a'n câl u towlu in i tân i dwarnod wedyn, faint mwy neith‑e roi dillad i chi, chi rei â dim ond tamed o ffydd 'da chi! 29Peidwch meddwl trw'r amser am beth ŷch‑chi'n mynd i fita neu beth ŷch‑chi'n mynd i hifed; rhaid ichi beido becso. 30Co beth mae'r rhei sy ddim in credu in becso amdano trw'r amser; ond chi, dilech‑chi wbod bo'ch Tad in gwbod bod ishe'r pethe ma arnoch chi. 31Chwiliwch chi am i Deyrnas e in lle cinta, a geith i pethe erill 'ma u rhoi ichi. 32Peidwch câl ofon, braidd bach; ma'r Tad wrth i fodd in rhoi'r Deyrnas i chi.
33“Gwerthwch beth sy 'da chi a rhoi elusen. Newch in shŵr bod 'da chi bwtsh arian sy ddim in troulo, a trisor na alla neb i gownto fe in i nefodd, lle gall neb i ddwyn e a gall dim moth i ddistrywo fe. 34Achos lle ma'ch trisor chi, fan 'ny 'fyd ma'ch calon chi.
35“Biddwch in barod, i'ch belt in dyn a'ch lampe in gynn; 36a biddwch fel dinion sy'n disghwyl u mishtir nôl o'r parti priodas, fel pna bo fe'n dod a'n cnoco ar i drws gallan‑nhwy agor iddo fe streit. 37Na hapus fidd i gweishon hyn fydd in câl u dala'n cadw lligad mas pan ddeith i mishtir. Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd‑e'n clwmu'i felt in dyn, in neud iddyn nhwy ishte wrth i ford, a'n dod a'u serfo nhwy. 38Os eith‑e, in hwyr i nos neu'n ginnar in i bore, a ffindio nhwy ar ddihun, biddan‑nhwy in hapus. 39Ŷch‑chi'n gwbod in iawn os bise'r dyn we'n pia'r tŷ in gwbod pryd we'r lleidir in dod, bise‑fe ddim wedi gadel i'r tŷ gâl i dorri miwn iddo in i lle cinta. 40Rhaid ichi 'fyd fod in barod, achos bydd Crwt i Dyn in dod pan nad ŷch‑chi'n i ddishgwyl e.”
41Gwedo Pedr, “Arglwidd, a wrthon ni wit‑ti'n gweud i ddameg 'ma neu wrth bob un?” 42Gwedo'r Arglwidd, “Gwed‑ti wrtha i, pwy yw'r manajer call alli‑di drysto, dyn fydde'i fishtir ishe rhoi dros i weishon, i roi bwyd idyn nhw ar ir amser iawn? 43Bydd i ceithwas hwnnw in hapus os ceith i fishtir e'n gweitho pan ddeith e gatre. 44Dw‑i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, ceith‑e i roi i redeg i holl eiddo fe. 45Ond os dwedith i caethwas 'na wrth i unan, ‘Ma'r mishtir in cwmrid i amser in dod’, a'n dachre bwrw'r gweishon a'r morynion, byta a hifed a meddwi, 46bydd mishtir i caethwas hwnnw in dod ar ddwarnod seno‑fe in i ddisgwyl e, a ar amser seno'n gwbod, a bydd‑e'n u dorri e'n ddoi a neud iddo rannu in ffwd ir anffyddlon.
47“Bydd ceithwas we'n gwbod beth we'i fishtir e moyn on nâth e ddim trefnu na neud fel 'ny in câl i fwrw sawl gwaith; 48ond bydd ynte, a hinny heb wbod beth we'i fishtir moyn, in neud beth we'n heiddu crasfa, in cael i fwrw ond llai o weithe. Wrth i rhei sy wedi câl lot fowr, bydd dishgwyl lot fowr; wrth un sy wedi cael addewid am lot, bydd lot in fwy in câl i ofyn nôl.
49“Des‑i i ddwâd â tân i'r ddeiar, a trenu nag yw‑e wedi'i ginnu'n barod! 50Ma 'da fi fedydd ma'n rhaid ifi gâl in fediddio ag e, a 'na ofid sy arna i nes geith i peth i neud! 51Ŷch‑chi'n credu bo fi wedi dwâd i ddwâd â heddwch ar i ddeiar? Nadw, dw‑i'n gweu‑'thoch chi, ond in hitrach dwâd â rhanniade dw‑i 'di neud! 52Achos o nawr mlân bydd teulu o bump wedi'i rannu, tri in erbyn dou, dou in erbyn tri; 53tad in erbyn crwt, a crwt in erbyn tad; mam in erbyn rhoces, a rhoces in erbyn mam; mam-in-gifreth in erbyn rhoces-in-gifreth, a rhoces-in-gifreth in erbyn i mam-in-gifreth.”
54A wrth i crowde wedodd‑e, “Pan welwch chi gwmwl in dod o'r gorllewin, ŷch‑chi'n gweud ar unweth, ‘Mae'n dod i'r glaw’, a 'na beth sy'n digwydd. 55A pan ŷch‑chi'n gweld i gwynt in hwthu o'r de, ŷch‑chi'n gweud, ‘Bydd‑i'n dwym’, a mae‑i. 56Rhagrithwyr ŷch‑chi, ŷch‑chi'n gwbod shwt ma darllen ir arwyddion in i ddeiar a'r awyr; shwt wedyn 'te senoch chi'n gwbod shwt ma darllen arwyddion i'r amser 'ma?
57“Pam senoch‑chi'n deseido drostoch chi'ch hunen beth sy'n iawn? 58Pan ŷch‑chi in mynd 'da di elyn at ir majistrêt, treia ddod i ddielltwriaeth 'dag e ar i ffordd. Os na nei‑di falle eith‑e â ti o flan i barnwr a rhoith i barnwr ti in llaw'r swyddog a neith i swyddog di dowlu di i'r carchar. 59Dw‑i'n gweu‑'tho ti, dei di ddim mas o fan 'ny nes bo ti wedi talu di geinog ddwetha.”

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Luc 12: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ