Luc 11

11
1Wedd‑e'n gweddïo'n rhiwle a, pan stopodd‑e, gwedodd un o'i ddisgiblion wrtho fe, “Arglwidd, dysga ni i weddïo, fel disgodd Ioan i ddisgiblion.” 2Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Pan ŷch‑chi'n gweddïo gwedwch: Dad,
ŷn-ni moyn gweld di enw'n câl i barchu;
ŷn‑ni moyn gweld di Deyrnas di'n dod;
3rho ddigon o fara i ni ar gownt heddi;
4madde in pechode ni,
achos ŷn‑ni'n madde i bobun sy mewn diled i ni;
a paid â dod â ni i gâl in profi.”
5Gwedodd‑e wrthyn nhwy 'fyd, “Gwedwch bo ffrind 'da un ono chi a bo chi'n mynd ato fe ganol nos a gweu‑'tho fe, 'Ffrind, rhoi fentig tair torth ifi. 6Mae ffrind i fi sy'n trafeilu'n bell wedi galw arna i a sdim byd 'da fi i roi o'i flân e', 7a bo e'n ateb, “Paid poeni fi. Ma'r drws wedi cloi a dw‑i a'r plant in gwely; galla‑i ddim codi a rhoi dim iti.’ 8Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, er na fydd‑e'n codi i rhoi dim iddo achos i fod e'n ffrind iddo, fe neith‑e godi a rhoi fel sy ishe arno fe achos i fod e mor ddigwilydd in holi.
9“Dw‑i'n gweuth‑'thoch chi, Holwch a bydd‑e'n câl i roid ichi; whiliwch a ffindwch‑chi; cnocwch a geith i drws i agor ichi; 10achos bydd bob un sy'n holi in câl, a bydd i drws in agor i bob un sy'n cnoco. 11P'un o chi sy'n dad os bidde plentyn i chi in gofyn am bisgodyn in rhoi neidr iddo in lle? 12Neu a fidde fe rhoi sgorpion iddo fe in lle wŷ? 13Os ŷch‑chi 'te, sy'n ddinion drwg, in gwbod shwt i roi pethe da i'ch plant, gwmint in fwy roith ich Tad nefol ir Isbryd Glân i'r rhei sy'n holi amdano!”
14Wedd‑e'n towlu cithrel mas we'n ffeilu sharad. Pan âth i cithrel mas we'r dyn in galler sharad, a we'r crowde wedi sinnu. 15Ond holodd rhei a gweud, “Mae‑e'n iwso Beelsebwl, i pen cithrel, i dwolu mas cithreilied.” 16Rhoiodd rhei erill dest iddo fe a gofyn am arwidd o'r nefodd. 17Wedd‑e'n gwbod beth wen‑nhwy'n i feddwl a gwedodd e wrthyn nhwy, “Bydd pob teyrnas sy'n troi in erbyn i hunan in ffeilu, a tŷ ar ôl tŷ in cwmpo. 18A os yw Satan wedi troi in erbyn i unan, shwt neith i derynas e sefyll? Dw‑i'n gweud hyn achos bo chi'n gweud bo fi'n iwso Beelsebwl i dowlu mas cithreilied. 19Os dw‑i'n iwso Beelsebwl i dowlu mas cithreiled, pwy ma'ch dinion chi in iwso? So nhwy fydd in farnwyr arnoch chi. 20Ond os iwsa‑i fys Duw i dowlu mas cithreiled, ma Teyrnas Duw in bendant wedi dod atoch chi. 21Pan ma dyn cryf arfog in drych ar ôl i beth i unan, ma popeth sy 'dag e in sâff; 22ond pan ma dyn crifach in dod arno a'n i drechu fe, mae‑e'n mynd ag arfe we'r dyn cryf wedi dependo arnyn nhwy, a'n rhannu mas beth mae‑e wedi concro. 23Os nag yw dyn 'da fi mae‑e in in erbyn i, a os nadi dyn in in helpu i i rowndo'r defed miwn mae‑e'n u hala nhwy bob ffordd.
24“Pan ma isbryd bowlyd in mynd mas o ddyn, mae‑e'n mynd trw lefyd lle na wes dŵr in whilio am rywle i gâl hwe. Pan mae‑e'n ffeilu ffindo lle mae‑e'n gweud, “Â‑i nôl i'n gatre i o lle ddes‑i mas.” 25Mae'n dod a ffindo'r lle wedi'i glau a'n deidi. 26Wedyn eith‑e bant a dod â saith isbryd arall sy'n fwy drwg nag e, a man‑nhwy'n mynd miwn a'n setlo lawr fan 'na; a ma'r dyn 'na in wâth stât ar i diwedd na ar i dachre.”
27Fel wedd‑e'n gweud hyn, gweiddodd menyw mas arno fe o'r crowd, “Ma'r bola 'nâth di gario di, a'r briste nes‑di sugno in hapus.” 28Ond wedodd‑e, “Bidde'n well gweud, ‘Ma'r rhei sy'n cliwed neges Duw a'n gadw fe in hapus.”
29Fel we'r crowde in gwasgu rownd 'ddo fe, gwedodd‑e, “Ma'r genhedlaeth ddrigionus 'ma in gofyn am arwidd, ond geith‑i ddim arwidd ond am arwidd Jona. 30Achos fel we Jona in arwydd i ddinion Ninefe, bydd Crwt i Dyn in arwydd i'r genhedleth 'ma. 31Bydd cwîn i de in codi amser i farn gida dinion i genhedleth 'ma a'n u condemno nhwy, achos dâth‑i o bendraw'r byd i gliwed doethineb Solomon; ond mae rhwbeth mwy 'na Solomon fan 'yn. 32Bydd dinion Ninefe in sefyll lan amser i farn gida'r genhedleth 'ma a'n i chondemo hi, achos pan bregethodd Jona iddyn nhwy fe ddifaron‑nhwy; ond ma rhwbeth mwy 'na Jona fan 'yn.
33“Sneb in cinnu canwill a'n i chwato hi neu'n i rhoi 'ddi dan gerwn mowr; man‑nhwy'n i rhoi 'ddi ar stand, fel bo dinion in galler gweld i gole wrth ddod miwn. 34Di ligad di yw lamp i corff. Pan ma di ligad di'n iach ma di gorff di i gyd in llawn gole; ond pan mae e'n afiach ma di gorff di 'fyd in llaw tewillwch. 36Os yw di gorff di gyd in llawn gole, heb ddim tewillwch o gwbwl, bydd‑i mor ole a pan ma lamp in sheino.”
37Wedi 'ddo sharad, gofino Ffarisead iddo fe ddod ato fe i gâl pryd o fwyd; âth‑e miwn a ishte wrth i ford. 38We'r Ffarisead in sinnu bo fe ddim wedi golchi i unan fel ma'r grefydd Iddewig in gofyn ichi neud cyn bita pryd o fwyd. 39Gwedo'r Arglwidd wrtho fe, “Fel hyn ma‑i, ŷch‑chi'r Ffariseied in clau tu fas i cwpan a'r ddishgil, ond ma'ch tu fiwn chi'n llawn rhaid a drwg. 40Ffwlied dwl, ddim ir un un a nâth i tu fas nâth neud i tu fiwn 'fyd? 41Ond rhowch in elusen i pethe sy tu fiwn, a bydd popeth in lân i chi. 42Druens â chi, Ffariseied! Ŷch‑chi'n talu degwm ar fint, riw, a pob math o herb, ond ŷch‑chi'n anghofio am gifawnder a caru Duw. Co'r pethe dileech‑chi fod wedi'u cadw nhwy heb anghofio'r pethe erill. 43Druens â chi, Ffariseied! Ŷch‑chi'n dwlu ar i sêt fowr in i sinagog a bo dinion in ich nabod lli in i farced. 44Druens â chi! Ŷch‑chi fel twme sneb in silwu arnyn nhwy, a ma dinion in cered drostoch chi heb wbod.”
45Atebo un o'r rhei we'n disgu'r Gifreth e a gweud, “Athro, pan wit‑ti'n gweud i pethe 'ma wit‑ti in in ypseto ni 'fyd.” 46Gwedodd‑e, “Druens â chi 'fyd te, i rhei sy'n disgu'r Gifreth! Ŷch‑chi'n rhoi beichie ar ddinion sy'n galed i gario, a senoch‑chi'n twtsh â'r beiche â blân ich bise hyd‑'nôd. 47Druens â chi! Lladdodd ich tade i proffwydi a chi'n sy'n codi'u twme. 48Ŷch‑chi wedyn in distion a'n cituno 'da beth nâth ich tade; lladdon‑nhwy e a ŷch‑chi'n codi'u twme nhwy. 49Achos hyn ma Doethineb Duw in gweud, ‘Hala‑i broffwydi a negeseuwyr atyn nhwy, a biddan‑nhwy in lladd neu'n erlid rhei ohonyn nhwy.’ 50We hyn fel cese gwâd i proffwydi a gâs i sarnu 'ddar creu'r byd in câl i ddial amdano ar i genhedleth 'ma, 51o wad Abel i wad Sechareia a farowdd rhynt i'r allor a'r lle sanctedd. Ody wir, dw‑i'n gweu'tho chi, bydd dial ar i genhedleth 'ma. 52Druens o'r rhei sy'n disgu'r Gifreth! Ŷch‑chi wedi cwmrid bant ir allwe i wibodaeth; senoch‑chi'ch hunen wedi mynd miwn a ŷch‑chi wedi stopo'r rhei we'n golgu mynd miwn.”
53Pan âth‑e mas o'r fan 'ny, âth i rhei we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied wedi mynd in grac a holon‑nhwy lot o gwestjwne iddo fe am lot o bethe; 54wen‑nhwy in gorwe in barod i jwmpo ar unrhiwbeth wedd‑e'n debyg o weud.

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Luc 11: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ