Luc 13
13
1Jyst wedyn dâth dinion a gweu‑'tho am i Galileied we Pilat wedi'u lladd fel wen‑nhwy in i cwrdd. 2Atebodd‑e nhwy, “Ŷch‑chi'n meddwl bo'r Galileied 'ny, achos u bo nhwy wedi godde'r pethe 'ny, in wâth na Galileied erill? 3Na wen, dw‑i'n gweu‑'tho chi; ond os na newch‑chi ddifaru newch‑chi farw fel nethonhwy. 4Neu a ŷch‑chi'n meddwl bo'r deunaw gâth u lladd pan gwmpodd i tŵr in Siloam ar u penne in wâth dinion na'r rhei erill sy'n byw in Jeriwsalem? 5Na wen, dw‑i'n gweu‑'tho chi; ond os na newch‑chi ddifaru biddwch‑chi in marw in ir un ffordd a nethon‑nhwy.” 6Wedodd‑e'r ddameg hon wrthyn nhwy: “We dyn 'da llwyn ffigs wedd‑e wedi'i blannu in ganol i llwyni grêps, a dâth‑e a whilio am ffrwyth arno, ond ffindiodd‑e ddim byd. 7Gwedodd‑e wrth i garddwr, ‘Dw‑i wedi bod in dod in whilio am ffrwythe ar i llwyn ffigs 'ma ‘os tair bline, ond sena‑i wedi ffindio dim. Torra fe lawr. Pam mae‑e'n mynd â lle fan 'yn?’ 8Atebodd‑e, ‘Gad e fod am flwyddyn 'to, syr, nes bo fi wedi palu rown 'ddo a rhoi bach o maniwer arno; 9os neith ffrwyth diddu arno bydd popeth in iawn; os na neith, dorrwn‑ni e lawr.’”
10Wedd‑e'n disgu in un o'u sinagoge nhwy dy’ Sabbath. 11We menyw fan 'ny we wedi bod â isbryd ‘os dounaw mline we'n i neud hi'n wan; wedd‑i grwm a we dim alle‑i neud i fistyn i hunan. 12Pan gwelo Iesu 'ddi galwodd‑e arni i ddot ato fe a gwedod‑e wrthi, “Wit‑ti'n rhydd o di wneidid’; 13a rhoiodd‑e i ddwylo ar ni. Ar unweth fe safodd i lan in streit a dachre rhoi gogoniant i Dduw. 14Pan ddigwyddodd 'ny gwedo swyddog i sinagog, we'n grac bo Iesu wedi wedi gwella ar ddy’ Sabbath, wrth i crowd, “Ma whech dwarnod i gâl i neud gwaith; dewch ar i dwarnode 'ny i gâl ich neud in well, a ddim ar ddy Sabbath.’” 15Wrth i ateb e wedo'r Arglwydd, “Rhagrithwyr, seno pob wan jac onoch chi in gadel i ych neu'i asyn in rhydd ar ddy’ Sabbath a'n u harwen nhwy at i dŵr? 16Ddile'r fenyw 'ma, rhoces i Abraham, in rhwym 'da Satan am ddounaw mlined, ddim fod wedi câl i gadel in rhydd ar ddy’ Sabbath?” 17Fel wedodd‑e hyn, câth pob un o'r rhei we in i erbyn e u ciwiliddio, a we'r crowd i gyd wrth u bodde 'da pethe wedd‑e'n u neud.
18Gwedodd‑e, “Beth ma Teyrnas Duw fel, a i beth 'na‑i gimhrau fe? 19Mae‑i fel hadyn mwstad nâth dyn i gwmrid a planu in i ardd; tiddodd‑e nes dod in llwyn mowr, a we adar ir âr in nithu in i ganghene.”
20Shwrne 'to gwedodd‑e, “I beth alla‑i gimharu Teyrnas Duw? 21Mae‑i fel berem ma menyw in i gwmrid a'n i gwato mewn naw galwn o fflwr nes bo'r berem wedi mynd trw'r fflwr i gyd.’
22Âth‑e trw tre ar ôl tre a pentre ar ôl pentre in disgu ar i ffordd i Jerwsalem. 23Gwedo rhiwun wrtho fe, “Syr, dim ond lot fach o ddinion sy'n mynd i gâl i safio, on'dife?” Gwedodd‑e wrthyn nhwy, 24“Treiwch‑chi fynd miwn trw'r drws cul, achos dw‑i'n gweu‑'thoch chi, bydd lot in treial mynd miwn trwyddo, ond ddim in galler. 25Shwrne i'r penteulu godi i gau'r drws, os sefwch‑chi tu fas a cnoco, a gweud, ‘Syr, agor i ni’, bydd‑e'n ateb, ‘Sa‑i'n ich nabod chi; rhei o ble ŷch‑chi?’ 26Wedyn wedwch‑chi, ‘Nethon‑ni fita a hifed gida ti; a nes‑di in disgu ni in in stridodd ni.’ 27Ond wedith‑e wrthoch chi, “Sa‑i in ich nabod chi; rhei o ble ŷch‑chi? Gadwch fi fod, bob un onoch chi sy'n neud drigionu.’ 28Bydd boichen a crenshan dane fan 'ny, pan welwch chi Abraham, Isaac a Jacob, a'r proffwydi i gyd, in Deyrnas Dduw, a chi'ch huen wedi'ich rhoi tu fas. 29Dewn‑nhwy o'r dwyren a'r gorllewin, o'r gogledd a'r de, a gewn‑nhwy fod in westeion i Dduw in i Deyrnas. 30In wir, ma rhei sy ddwetha biddan‑nhwy ginta, a rhei in ginta fydd in ddwetha.”
31A'r amser 'ny dâth rhei o'r Ffariseied ato fe a gweud, “Cer bant o fan 'yn a cer mlân â di jant. Ma Herod moyn di ladd di.” 32Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Cer a gweth i cadno hwnnw, ‘Heddi a fory dw‑i'n towlu mas cithreilied a'n gwella, ond i tridydd dydd byddai'n bennu'n waith. 33Ond ma'n rhaid i fi fynd mlân â'n jant heddi, fory a thradwy, achos seni'n bosib i broffwd farw tu fas Jerwsalem.
34“Jerwsalem, Jerwslaem, ti sy'n lladd i proffwydi a'n towlu cerrig at i rhei sy'n câl u hala ato ti, faint mor amal wdw‑i wedi ishe casglu di blant di ata i, in gowir fel ma deryn in casglu i chywion a'u cwato nhwy dan i hadenydd, ond wenoch‑chi moyn iddo ddigwydd! 35Drichwch, ma'ch tŷ chi wedi câl i adel i fod ichi. Dw‑i'n gweu‑'thoch chi, newch‑chi ddim ing ngweld i hys bo'r amser in dod pan wedwch chi, ‘Bendigedig yw'r un sy'n dod in enw ir Arglwdd.”
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies