Ioan 4
4
Iesu in sharad gida menyw o Samaria
1-3Pan we Iesu'n gwbod bo'r Ffariseied wedi cliwed i fod e'n neud a'n bididdio fwy o ddisgiblion na Ioan gadodd e Jiwdea a mynd nôl i Galilea. I weud i gwir, disgiblion Iesu we'n bididdio, a ddim Iesu i unan. 4Nawr, we rhaid iddo fynd trw Samaria; 5a ddâth e i dre in Samaria sy'n câl i galw in Sichar. Ma'r dre ar bwys i patshyn tir roiodd Jacob i Joseff i crwt. 6We ffinnon Jacob fan 'ny. Achos bo fe wedi bleino 'da'r trafeilu i gyd, ishteddodd Iesu ar bwys i ffinnon fel wedd e. Rhyw ddouddeg ar gloch wedd i.
7Dâth menyw o Samaria at i ffinnon i nôl dŵr. Gwedo Iesu wrthi, “Dere â rwbeth i fi hifed.” 8(We'i ddisgiblion wedi mind miwn i'r dre i bernu bwyd.) 9Gwedodd i fenyw o Samaria wrtho fe, “Shwt in i byd mowr wit ti, Iddew fel wit ti, in gofyn i fi, menyw o Samaria, am rwbeth i hifed?” (Wedodd i 'na achos so Iddewon na pobol Samaria in neud dim byd o gwbl 'da'i gily.) 10Atebo Iesu 'ddi, “Os byset ti'n nabod beth sy 'da Duw i roi i ti, a'r un sy'n gweu 'tho ti, 'Dere â rhwbeth i fi hifed’, byset ti wedi gofyn iddo fe, byse fe wedi roi dŵr byw iti.” 11Gwedo'r fenyw wrtho, “Mishtir, sdim pail 'da ti, a ma'r ffinnon in un ddwfwn; o ble wit ti'n mynd i gâl i dŵr byw 'ma? 12Wit ti'n bwysicach na'n tad ni, Jacob, a roiodd i ffinnon 'ma i ni, a hifed o'ni i unan, a hifodd i grwts, a'i dda?” 13Atebo Iesu 'ddi, “Bydd bob un sy'n hifed i dŵr 'ma in sichedu 'to, 14ond bydd bob un sy'n hifed i dŵr roia i iddon nhwy byth in sichedu 'to; in lle ni bydd i dŵr roia i iddon nhwy in troi in ffinnon o ddŵr indyn nhwy, a bydd i dŵr in tarddu mas o'nyn nhwy in fowid am byth.” 15Gwedo'r fenyw wrtho, “Mishtir, rho'r dŵr 'na i fi, fel bo ddim siched arna i byth 'to, a fel bo ddim rhaid ifi ddwâd mas ir holl fordd i fan 'yn i dinnu dŵr.” 16Gwedodd e wrthi hi, “Cer, a gweu 'th di ŵr i ddwâd 'ma.” 17Atebo'r fenyw, “Sdim gŵr i gâl 'da fi.” Wedo Iesu wrthi, “Ti'n lligad di in gweud, 'Sdim gŵr i gâl da fi’; 18ac ti 'di câl pump o wŷr i gyd, a seno'r dyn wyt ti'n byw 'dag e nawr in ŵr i ti. Do, wedes di'r gwir fan 'na.” 19Gwedo'r fenyw wrtho, “Mishtir, dwi'n gweld bo ti'n broffwd. 20We'n cyn dade ni in addoli ar i mini 'ma, ond ŷch chi'r Iddewon in gweud taw in Jerwisalem ddile dinion addoli.” 21Gwedo Iesu wrthi, “Cred ti fi, ma amser in dwâd pan fiddwch chi ddim in addoli'r Tad ar i mini 'ma na in Jeriwsalem whaith. 22Och chi'n addoli peth senoch chi'n i nabod; ŷn ni'n addoli i peth ŷn ni in i nabod e, achos wrth ir Iddewon ma iachadwrieth in dwâd. 23Ond ma amser in dwâd, i weud i gwir mae e 'ma nawr, pan fydd i rhei sy'n addoli in iawn in addoli'r Tad miwn isbryd a gwirionedd; achos pobol fel 'na ma'r Tad ishe u gweld nhwy in i addoli e. 24Ma Duw in Isbryd, a ma'n rhaid i'r rhei sy'n i addoli e neud 'ny miwn isbryd a'n iawn.” 25Gwedo'r fenyw, “Dwi'n gwbod fod i Meseia' (sy'n câl i alw ir Un gas i Ddewish) 'in dod. Pan ddeith e, gwedith e bob peth wrthon ni.” 26Gwedo Iesu wrthi, “Fi yw e, fi sy'n sharad 'da ti.”
Disgiblion Iesu in dod nôl
27A'r funud 'ny dâth i disgiblion, a wen nhwy'n sinnu i weld e'n sharad gida menyw; ond wedo neb, “Beth wit ti moyn?” neu “Pam wet ti'n sharad 'da i?” 28Gado'r fenyw i stên, a bant â hi i'r dre a gweu 'tho'r dinion, 29“Dewch i weld dyn sy wedi gweu 'tha i bopeth wi wedi'i neud ariôd; ife hwn yw'r Meseia?” 30Ethon nhwy mas o'r dre a dwâd ato fe.
31Ond we'r disgiblion in begian arno, a'n gweud, “Rabbi, rhaid iti fita.” 32Gwedodd e wrthon nhwy, “Sdim bwyd 'da fi i fita bysech chi'n diall i fod e'n fwyd.” 33Gwedo'r disgiblion wrth i gily, “Wes rhiwun wedi dwâd a bwyd iddo, 'te?” 34Gwedo Iesu wrthon nhwy, “In fwyd i yw neud beth ma fe nâth i'n hala am i fi neud a bennu i waith e. 35Senoch chi'n gweud, ‘Pedwar mish 'to, a mae'n amser cineia?’ Codwch ich lliged, dwi'n gweu 'thoch chi, a drichwch ar i perci; man nwy'n barod i'r cineia, 36Ma'r medelwr in câl i dalu ac in cwen cineia ar gifer bowid am byth, fel gall i howr a'r medelwr fod yn bles 'da i gily. 37Wedyn bydd ir hen ddihareb sy'n gweud fod un in hou a'r llan in medi in dwâd in wir. 38Hales i chi i gwên peth wenoch chi wedi gweithio amdano; rhei erill we wedi neud i gwaith i gyd, a nethoch chi rannu in ffrwyth u gwaith nhwy.”
Pŵer o'r Samaried in credu in Iesu
39Credodd pýer o'r Samaried y dre 'na achos beth we'r fenyw wedi gweud amdano: “Mae e wedi gweu 'tha i bopeth wi wedi'i neud ariôd.” 40Pan ddâth i Samaried ato gofinnon nhwy iddo fe aros gida nhwy; a aros nâth e, am ddou ddwarnod o leia. 41Credodd pýer o bobol achos i air e, 42a gwedon nhwy wrth i fenyw, “Senon ni'n credu nawr dim o achos ir hanes wedes ti, achos ŷn ni wedi cliwed in hunen, a ŷn ni'n gwbod taw fe yw'r un sy'n mynd i safio'r byd.”
Iesu in gwella crwt i swyddog
43Wedi dou ddwarnod âth o fan 'ny i Galilea. 44Achos we Iesu i hunan wedi gweud fod dim parch i broffwd in i fro i hunan. 45Pan ddâth e i Galilea, cas e groeso 'da'r Galileied; wen nhwy wedi cliwed am bob peth wedd e wedi'i neud in Jeriwsalem amser ir Ŵyl, achos wen nhwy 'fyd wedi wedi mynd i'r Ŵyl.
46Dâth ei i Cana in Galilea shwrne 'to — 'na'r lle wedd e wedi troi dŵr in win. Nawr, we swyddog i brenin in Capernaum, a we'i grwt e'n sobor o sâl. 47Pan gliwo'r dyn hyn bo Iesu wedi dwâd o Jiwdea i Galilea âth e ato a gofyn iddo ddod lawr i wella i grwt e we 'bitu farw. 48Gwedo Iesu wrtho, “Os na welith i bobol seins a phethe mowr senyn-nhwy'n folon credu.” 49Gwedo swyddog i brenin wrtho, “Mishtir, dere lawr cyn bo'n grwt i'n marw.” 50Gwedo Iesu wrtho, “Cer, ma di grwt di'n mynd i fyw.” Credo'r dyn beth we Iesu wedi'i weud, a fe âth e. 51Pan wedd e ar i ffordd o hyd, dâth gweishon ato fe a gweud bod i grwt e'n mynd i fyw. 52Holodd e faint ar gloch wedd i pan ddachreuo'r crwt wella. Gwedon nhwy wrtho fe, “Dwe, marce un ar gloch, gadodd i dwymyn e.” 53We'r tad in gwbod taw per'ny we'r amser pan wedo Iesu wrtho, “Ma di grwt di'n mynd i fyw”; a wedd e i hunan, a'i dilwith i gyd wedi creu. 54Co'r ail sein nâth Iesu wedi iddo ddod o Jiwdea i Galilea.
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies