Ioan 3

3
Iesu'n disgu Nicodemus
1Dâth un o'r Ffariseied, Nicodemus we'i enw e, at Iesu pan wedd i'n dewill. Nawr wedd e'n Iddew pwysig iawn, in un o'r rhei we'n u harwen nhwy. 2A gwedodd e wrth Iesu, “Rabbi, ŷn ni'n gwbod bo ti'n dwâd wrth Dduw fel un i'n disgu ni, achos galle neb neud i pethe wit ti'n neud os na byse Duw 'dag e.” 3Atebo Iesu, “Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, os nadi dyn in câl i eni o lan gall e ddim gweld Teyrnas Duw.” 4Gwedo Nicodemus wrtho, “Shwt gall dyn gâl i eni pan mae e'n hen? Gall e fynd nôl miwn i fola'i fam shwrne 'to, a câl i eni?” 5Gwedo Iesu, “Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, os nadi dyn in câl i eni o ddŵr a'r Isbryd, gall e ddim mynd miwn i Deyrnas Duw. 6Ma pob un sy'n câl u geni fel pobol in debig i bobol, ond ma pob un sy'n câl u geni o'r Isbryd in debig i'r isbryd. 7Peidwch câl sindod bo fi'n gweu'thoch chi, ‘Rhaid ichi gyd gâl ich geni shwrne 'to o lan.’ 8Ma'r gwynt in hwthu ble mae e moyn, gallwch chi i gliwed e, ond senoch chi'n gwbod o ble mae e'n dwâd, na i ble mae e'n mynd. Fel 'na'n gowir mae i gyda'r rhei sy'n câl u geni o'r Isbryd.” 9Atebo Nicodemus e, “Shwt gall i pethe 'ma ddigwidd?” 10Gwedo Iesu, “Wit ti'n un sy'n disgu pobol Isrel, on'd wit ti? Shwt wedyn wit ti ddim in gwbod i pethe 'ma? 11Dwi'n gweud i gwir wrthot ti nawr, ŷn ni'n sharad am bethe ŷn ni'n gwbod amdanyn nhwy, a dwi'n gweu'thoch chi am bethe dwi wedi'u gweld nhwy; ond wedyn weth sdim un o'chi in credu beth dwi'n gweud. 12Dwi wedi gweu 'thoch chi am bethe deiarol, a chi ddim wedi'n gredu i, shwt wedyn 'te newch chi'n gredu i pan weda i wrthoch chi am bethe nefol? 13Sneb wedi mynd lan i'r nefodd ond ir Un ddath lawr o'r nefodd, Crwt i Dyn.
14“In gowir fel gododd Moses i neidir lan miwn lle diffeth, ma'n rhaid i Grwt i Dyn gal i godi lan, 15fel bo bob un sy'n credu in câl byw am byth indo fe.” 16Achos carodd Duw bob sun shwt gwmint nes bo fe wedi rhoi i unig Grwt, fel bo pob un sy'n credu indo fe ddim in marw, ond in câl byw am byth. 17Achos nâth Duw ddim hala'i Grwt miwn i'r byd i farnu'r byd, ond ar gownt safio'r byd trwyddo fe. 18Fydd neb sy'n credu indo fe in cal i farnu; ma'r rhei sy ddim yn credu wedi câl u barnu in barod, ochos bo nhw ddim wedi credu in unig Grwt Duw. 19Fel hyn ma barn in gweitho: ma gole wedi dwâd miwn i'r byd, ond we well 'da pobol aros miwn tewillwch na miwn gole, achos we'r pethe wen nhwy'n u neud in ddrigionus. 20Ma pob un sy'n neud drigoni yn ffeilu haru'r gole, so senon nhwy'n dwâd miwn i'r gole fel bo'r pethe man nhwy'n u neud in câl u gweld; 21ond ma'r rhei sy'n neud beth sy'n iawn in dwâd miwn i'r gole, fel bo'r pethe man nhwy'n u neud in câl u dangos fel pethe sy'n dwâd wrth Dduw.”
Ioan Fididdiwr in sharad obitu Iesu
22Wedi hyn dâth Iesu a'i ddisgiblion i wlad Jiwdea; a arhosodd e gida nhwy a bididdio. 23We Ioan 'fyd in bididdio in Ainon, ar bwys Salim, achos we lot o ddŵr man 'ny; a we pobol in dwâd a'n câl u bididdio; 24achos we Ioan ddim wedi câl i roi in shâl 'to.
25A dachreuodd rhei o ddisgiblion Ioan a Iddew bledo â'i gily obitu lle golchi in u cred. 26Dethon nwy at Ioan a gweu 'tho, “Rabbi, dricha! Mae e, ir un we 'da ti ochor arall i afon Iorddonen, ir un nes di weu 'thon ni amdano fe, in bididdio, a ma pob un in mynd mas ato fe.” 27Atebo Ioan, “Gall neb gâl ddim byd os nadi e wedi'i roi iddon nhwy in i nefodd. 28Gallwch chi'ch hunen weud amda i, nes i weud, ‘Ddim fi yw'r Meseia, ond dwi wedi câl in hala o'i flân e.’ 29Ir un sy gida'r fenyw sy'n priodi yw'r dyn sy'n priodi; ond ma ffrind i dyn sy'n priodi, sy'n sefyll a'n grondo arno fe, wrth i fodd i gliwed llaish i dyn sy'n priodi. 30A nawr, o achos 'na, wi wrth in fodd. Rhaid iddo fe fynd in bwysicach, a rhaid i fi fynd in llai pwysig.”
31Mae e sy'n dwâd o lan in fishtir dros bob peth; mae e sy'n dwâd o'r ddeiar in un o'r ddeiar, a mae e'n sharad fel byse fe'n dwâd o'r ddeiar. Mae e sy'n dwâd o'r nefodd in fishtir dros bob peth. 32Mae e'n gweud am beth mae e wedi'i weld a wedi'i gliwed; ond sneb in credu beth mae e'n i weud. 33Ma bob un sy wedi credu beth mae e wedi'i weud in gweud fod Duw in wir. 34Ma'r un ma Duw wedi'i hala yn sharad geire Duw, achos seno Duw in gweud taw dim ond rhei sy'n câl ir Isbryd. 36Ma unrhiw un sy'n credu in i Crwt in byw am byth; bydd unrhiw un sy ddim in credu in i Crwt ddim in byw am byth, in lle 'ny ma Duw in ddig 'da nhwy.

በአሁኑ ጊዜ የተመረጠው፡

Ioan 3: DAFIS

ማድመቅ

ኮፒ

አወዳድር

ያጋሩ

None

ያደመቋቸው ምንባቦች በሁሉም መሣሪያዎችዎ ላይ እንዲቀመጡ ይፈልጋሉ? ይመዝገቡ ወይም ይግቡ